Gofyn i'r Gweinidog Addysg Ymyrryd yn Sir Ddinbych - Ysgol Pentrecelyn

 

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn i'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, i ymyrryd mewn ad-drefniant ysgolion yn Sir Ddinbych a fyddai'n golygu lleihau'r ddarpariaeth o addysg Gymraeg.  

Mae'r Gymdeithas yn dadlau fod yr ymgynghoriad am gynnig y Cyngor i gau Ysgol Gymraeg Pentrecelyn ac anfon y plant at Ysgol Ardal newydd a fydd yn ddwyieithog yn gwbl annilys gan ei fod wedi'i seilio ar gamsyniadau sylfaenol.  

Daeth ymgynghoriad i ben yr wythnos hon ar gynnig y Cyngor i gau ysgolion Pentrecelyn a Llanfair Dyffryn Clwyd a sefydlu yn eu lle Ysgol Ardal a fyddai'n gweithredu ar y dau safle o Fedi 2016 ymlaen, ond yn cael ei chanoli ar un safle rywle yn ardal Llanfair Dyffryn Clwyd erbyn Medi 2017. Ond mae'r Gymdeithas wedi galw ar Huw Lewis i ymyrryd trwy gyfarwyddo'r Cyngor i ailddechrau trafod gyda rhanddeiliaid.  

Esbonia llefarydd y Gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis,  

"Mae'r holl gynnig wedi'i seilio ar gamsyniad sylfaenol. Gofynnwyd yn wreiddiol i ysgolion Pentrecelyn a Llanfair DC gydweithio mewn ffederasiwn, ond dywed y Cyngor yn eu dogfen ymgynghorol fod rheoliadau newydd y llywodraeth ar ffedereiddio yn 2014 wedi gwneud hyn yn amhosibl gan fod un ysgol yn 'gymunedol' a'r llall yn eglwysig' 

"Ond petai'r Cyngor wedi astudio'r rheoliadau'n fanylach, byddai wedi gweld fod y llywodraeth yn cynnig opsiwn o "gyd-lafurio" rhwng dwy ysgol o'r fath - model sydd yr un fath a ffederasiwn ym mhopeth ond enw gyda chyd-fwrdd Llywodraethwyr i reoli'r ddwy ysgol. Ni roddwyd y wybodaeth hon, na'r opsiwn, yn y ddogfen ymgynghorol.  

"Yn lle hynny, mae gyda ni'r sefyllfa anhygoel fod y Cyngor wedi gofyn am ymateb cyhoeddus i gynnig sydd ddim hyd yn oed yn bodoli. Cynnig y Cyngor yw bod cau'r dwy ysgol a sefydlu Ysgol Ardal yn eu lle a fydd ar un safle erbyn Medi 2017. Ond doedd y Cyngor ddim yn gwybod ble fyddai'r safle na faint fyddai'n costio ac yn cydnabod yn y ddogfen fod "risg" na byddai cyllid i ddatblygu'r safle. Sut felly all pobl ymateb i gynnig nad sy'n bodoli?"  

Mae'r Gymdeithas yn pwyntio allan fod Gweinidog Addysg blaenorol wedi gwrthod cynnig tebyg gan Gyngor Sir Caerfyrddin i gau Ysgol Llansadwrn gan mai syniad yn unig oedd y datblygiad arfaethedig mewn ysgol gyfagos.  

Ychwanega Ffred Ffransis, "Yr unig beth a wyddys am yr Ysgol Ardal newydd yw mai Ysgol Categori 2  gyda ffrwd Cymraeg fyddai, yn lle bod yn Ysgol Gymraeg Categori 1 fel Pentrecelyn. Mae'r Cyngor Sir wedi gwneud y ddyletswydd statudol i lunio Astudiaeth Effaith Ieithyddol yn destun gwawd trwy honni mai niwtral fyddai israddio o'r fath ar y Gymraeg.  

"Mae'r Astudiaeth Effaith Gymunedol hefyd yn ddiystyr gan ei bod wedi edrych yn unig ar effaith niwtral y flwyddyn gyntaf pryd y byddai'r Ysgol Ardal ar y 2 safle presennol heb edrych ar effaith y canoli flwyddyn yn ddiweddarach."  

O ran casgliad dywed "Mae'r ddogfen ymgynghorol mor gamarweiniol fel na all fod yn sail at geisio barn cyhoeddus na chymryd penderfyniad. Dyna pam yr ydym ni wedi galw ar y Gweinidog i gyfarwyddo'r Cyngor i ailgychwyn y proses ar sail cywir."