Gwahoddiad i brif weithredwr esbonio pam bod cyngor sir yn gweithredu'n Saesneg

O flaen cyfarfod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin fore Llun 28ain Medi, cyflwynodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin wahoddiad mawr i Mark James ddod at gyfarfod cyhoeddus i esbonio pam bod y Cyngor Sir yn cyflawni bron y cyfan o'i waith ei hun yn Saesneg

Esboniodd Sioned Elin, Cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin:

"Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi mabwysiadu Strategaeth Iaith sy'n annod ysgolion a phawb arall yn y sir i weithio'n Gymraeg, ac eto mae'r Cyngor yn cyflawni bron y cyfan o'i waith ei hun yn hollol Saesneg ! Fe wnaethon ni edrych ar agenda ac adroddiadau'r cyfarfod hwn a gweld bod crynodebau bras yn Gymraeg ond bod adroddiadau i'r Bwrdd Gweithredol yn Saesneg, ac mae'r adroddiadau a'r dogfennau polisi eu hunain yn uniaith Saesneg. Mae'r dogfennau uniaith Saesneg yn cynnwys Adroddiad Gwelliant Blynyddol o holl waith y cyngor, gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau pobl hŷn, adroddiadau ar y gyllideb a gwasanaethau hamdden, a hyd yn oed gofnodion cyfarfod blaenorol y Bwrdd Gweithredol.
"Dyw'r Cyngor Sir ddim yn gosod esiampl i gyrff eraill yn y sir o ran defnyddio'r Gymraeg yn ei waith ei hun. Dyma felly fydd testun ein cyfarfod cyhoeddus nesaf yng nghyfres “Tynged yr Iaith yn Sir Gar”. Bydd y cyfarfod ar 30ain Ionawr yn trafod y cwestiwn "A yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithredu'n Gymraeg ei hun ?"

Yn ymuno gyda Chymdeithas yr Iaith i gyflwyno'r gwahoddiad oedd John Gwilym Jones, cyn-archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ychwanegodd Sioned Elin:
"Rydyn ni'n ddiolchgar fod nifer o swyddogion a chynghorwyr blaenllaw wedi cytuno i ddod i'r cyfarfod i drafod y mater, ond credwn fod angen i Brif Weithredwr y Cyngor fod yn atebol ac esbonio'n gyhoeddus beth yw'r cynllun i newid iaith y cyngor, ac i ateb cwestiynau'r cyhoedd am hynny. Diolchwn felly fod John Gwilym Jones, sydd wedi hen arfer a Gwyliau Cyhoeddi Eisteddfodau, wedi dod atom i gyhoeddi’r Cyfarfod Cyhoeddus ac i gyflwyno'r gwahoddiad i Mark James fod yn bresennol"

Bydd cyfarfod agored Tynged yr Iaith i drafod iaith y cyngor yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Caerfyrddin ar y 30ain o Ionawr.