Gweinidog Addysg cyntaf i ddeall pwysigrwydd ysgolion pentre

Mewn cynhadledd i'r wasg yng Nghaerfyrddin heddiw (dydd Llun 22ain o Awst), cyn cychwyn y tymor ysgol newydd, datgelodd Cymdeithas yr Iaith i'r Gweinidog Addysg newydd Kirsty William gynnig gobaith newydd i ysgolion pentrefol Cymraeg mewn cyfarfod diweddar.

Wrth adrodd am y cyfarfod, dywedodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg Toni Schiavone:
"Am y tro cyntaf ers sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol y mae Gweinidog Addysg o gefndir gwledig ac sy'n deall pwysigrwydd ysgolion pentrefol Cymraeg. Yn ein cyfarfod , dywedodd wrthym ei bod am ddiwygio'r Cod Trefniadaeth Ysgolion er mwyn symud i ffwrdd o'r 'ffocws parhaus' ar 'llefydd gwag'. Dywedodd ei bod yn datblygu polisi ysgolion gwledig newydd a bydd 'rhagdybiaeth yn erbyn cau' er nad oedd modd atal pob ysgol rhag cau. Dywedodd hefyd ei bod yn edrych ar wahanol fodelau o ffederasiynau i'w hybu gan eu bod yn cadw cymunedau tra'n cynyddu safonau ac yn arbed arian."

Rhodd o £1000 at brosiect cyffrous newydd

Yn yr un gynhadledd i'r wasg, tynnodd y Gymdeithas sylw at "brosiect cyffrous newydd" yn Sir Gaerfyrddin a allai weithredu fel cynllun peilot ar gyfer cymunedau pentrefol ledled y wlad. Dywedodd Aled Davies, cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Bancffosfelen, eu bod am gomisiynu Astudiaeth Dichonoldeb am sefydlu Ymddiriedolaeth Gymunedol i brynu a datblygu adeilad yr ysgol er budd y gymuned gyda'r Cyngor Sir yn rhentu rhan o'r adeilad ar gyfer ysgol.

Esboniodd Mr Davies:
"Mae'r llywodraethwyr a'r gymuned leol yn credu mai dyma'r ffordd ymlaen. Byddwn ni'n gallu cymryd y cyfrifoldeb o ddatblygu'r adeilad ar gyfer y gymuned, a'r Cyngor yn gofalu am eu dyletswydd nhw i drefnu ysgol yno."

Mewn ymateb cyhoeddodd y Gymdeithas ei bod wedi rhoi cyfraniad o £1000 tuag at yr Apêl gan ddatgan "y gall y cynllun peilot hwn fod yn batrwm i gymunedau pentrefol Cymraeg ledled y wlad sicrhau dyfodol eu hysgol a'u cymuned"

Mwy o luniau'r gynhadledd yma

Y stori yn y wasg:

Galw am bolisi arbennig i ysgolion gwledig - Golwg360 22/08/16
'Gobaith newydd' i ysgolion gwleidg meddai ymgyrchwyr iaith - BBC Cymru 22/8/16