Gweithredu uniongyrchol i dynnu sylw at fethiant Cyllideb y Cynulliad

logoWAG.jpg Neithiwr (Sul 24/10/04), peintiwyd y slogan – ‘Cymorth Prynu - £5 miliwn’ – gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar furiau swyddfa Llywodraeth y Cynulliad yn Aberystwyth.

Gwnaed hyn er mwyn tynnu sylw at y ffaith nad yw cyllideb drafft y Llywodraeth yn cynnwys unrhyw strategaeth dros y tair blynedd nesaf i alluogi Cymry ifanc i gael tai yn eu cymunedau lleol. O hyn, hyd at gyhoeddi fersiwn derfynol y gyllideb, bydd y Gymdeithas yn gweithredu er mwyn pwysleisio difrifoldeb yr argyfwng tai sydd yn wynebu ein cymunedau Cymraeg.Ers yr etholiad diwethaf, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gymryd dau gam syml, sydd o fewn ei rymoedd presennol, er mwyn lleddfu effeithiau yr argyfwng tai:1. Cynyddu’r arian a ganiateir ar gyfer Cymorth Prynu i o leiaf £5 miliwn y flwyddyn, gyda rhaglen i gynyddu’r gwariant i lefel a wna wir wahaniaeth i’r nifer o deuluoedd a fydd yn medru fforddio prynu tai.2. Sefydlu cronfa ‘Hawl i Rentu’, gan gydnabod fod prisiau tai wedi codi cymaint mewn llawer o gymunedau Cymraeg nes ei bod yn amhosibl i Gymry ifanc brynu tai hyd yn oed gyda chymorth.Meddai llefarydd ar ran y Gymdeithas:“Nid yw’r cynnigion ar gyfer maes tai yn y gyllideb ddrafft yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer cynnydd sylweddol yng nghyllideb y Cynllun Cymorth Prynu ac nid oes son am sefydlu cronfa ‘Hawl i Rentu’. Yn wir, mae angen pwysleisio fod cyllideb y Grant Tai Cymdeithasol yn parhau yn is nag ydoedd yn nyddiau’r Swyddfa Gymreig a hynny er gwaethaf y twf anferthol a welwyd yn y farchnad dai dros y blynyddoedd diwethaf. O ganlyniad, bydd y Gymdeithas yn gweithredu yn gyson o nawr hyd cyhoeddu fersiwn derfynol y gyllideb, er mwyn pwysleisio yr angen am arian ychwanegol. ”