Gwenno yn cyrraedd Aberystwyth ar ol cyfnod yn y carchar

Gwenno TeifiDaeth bron i 100 o bobl i orsaf drennau Aberystwyth am 3pm heddiw i groesawu Gwenno Teifi yn ol i Gymru, ar ol cyfnod mewn carchar yn Sir Gaerloyw.

Yn gynharach yn y dydd, cafodd yr aelod 19 oed o Gymdeithas yr Iaith ei rhyddhau o Garchar Eastwood Park - Caerloyw - wedi treulio 3 diwrnod o ddedfryd 5 niwrnod o garchar a osodwyd arni ganm Ynadon Caerfyrddin fore Llun am iddi wrthod talu costau ac iawndal i Radio Sir Gâr. Y drefn yw fod 2 ddiwrnod yn cael ei dynnu oddi ar ddedfryd 5 dydd am 'ymddygiad da'.Yn y Llys, galwodd Gwenno am Ddeddf Iaith Newydd a fyddai'n sicrhau - ymhlith pethau eraill - fod pob gorsaf radio'n gorfod cyflwyno cynlluniau am wasanaeth Gymraeg.Ymhlith y criw mawr a oedd yno i groesawu Gwenno oddi ar y tren, roedd 30 o gyd-fyfyrwyr o Aberystwyth a Bangor sydd wedi bod yn ymprydio. Gwnaed hyn i ddangos eu cefnogaeth ac fel arwydd o'u penderfyniad i ymgyrchu drosn Ddeddf Iaith Newydd. Roedd anerchiad gan Sian Howys ar ran grwp Deddf Iaith y Gymdeithas.gwenno-nol-or-carchar.jpg Carchar: Myfyrwyr yn ymprydio: BBC Cymru'r Byd Language protester given custody: BBC WalesCymdeithas activist set to be first jail martyr for 10 years: Western MailJailing of language campaigner starts protest: Western MailFirst language protester locked up in 11 years: Daily PostWelsh language supporters to salute jailed protester: Daily PostPrison Term For Radio Protestor: Pembrokeshiretv.com