Gwnewch ohebiaeth Sir Gaerfyrddin am gynllunio yn gyhoeddus

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gyngor Sir Gaerfyrddin i wneud yn gyhoeddus yr ohebiaeth rhwng Kevin Madge, arweinydd y cyngor a Carl Sargent, y Gweinidog â chyfrifoldeb dros gynllunio.

Yn ôl amserlen gweithredu strategaeth iaith newydd y cyngor, a gyhoeddwyd yn yr Eisteddfod, roedd llythyr i fynd gan Kevin Madge at Carl Sargent ym mis Medi yn argymell bod ail-edrych ar effaith datblygiadau a rheoliadau chynllunio ar y Gymraeg. Ymysg galwadau penodol mae:

  • Cynnwys y Gymraeg fel ystyriaeth faterol yn y Bil Cynllunio a'r Bil Tai;
  • fod cryfhau nodyn cyngor TAN20 er mwyn cynnwys mesur effaith cynllunio ar y Gymraeg;
  • Ystyried canllawiau i Awdurdodau Cynllunio fesurau llinaru i leihau effaith ar y Gymraeg;
  • Bod y Llywodraeth yn ail-ystyried y broses o ragweld y nifer o dai sydd eu hangen, gan ystyried anghenion cymunedau

Dywedodd Sioned Elin, cadeirydd y Gymdeithas yn yr ardal:

“Mae'n dda o beth fod y cyngor yn cydnabod fod cynllunio yn effeithio ar y Gymraeg, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud rhai pethau penodol ond dylai'r cyhoedd fod yn gallu gweld yr ohebiaeth rhwng y ddau gorff, gan gynnwys llythyron rhwng Kevin Madge a Carl Sargent. Gallai cynnwys y llythyron fod yn berthnasol i ardaloedd eraill. Fel Cymdeithas rydyn ni wedi bod yn pwyso ar y Llywodraeth i greu trefn gynllunio fydd yn gweithio er lles cymunedau felly bydd yn ddiddorol gweld pa ymateb mae'r cyngor sir wedi ei gael.
“Yn ychwanegol mae sawl peth gall y cyngor ei hun ei wneud. Rydyn ni'n barod wedi galw ar i'r cyngor gyfarwyddo'r pwyllgor sydd wedi cymeryd lle Gweithgor y Gymraeg i wneud ymchwil penodol ar effaith stadau tai newydd ar gymunedau lleol a'r Gymraeg.”

 

Mae Cymdeithas yr Iaith yn 'cadw llygad barcud' ar y cyngor sir yn arwain at gyfarfod agored – Tynged yr Iaith yn Sir Gâr, yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin ar 17eg o Ionawr.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beiriniadu Bil Cynllunio Llywodraeth Cymru am nad yw'n cyfeirio at y Gymraeg, ac wedi galw ar Carwyn Jones i ymswyddo oherwydd hynn. Mwy yma