Gwrthod cais am gannoedd o dai ym Mangor

 

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu penderfyniad pwyllgor cynllunio i wrthod cais i adeiladu dros dri chant o dai yn ardal Bangor.  

Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd rhanbarth lleol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 

"Rydyn ni'n croesawu penderfyniad y cynghorwyr. Mae cyfraith am statws y Gymraeg yn y system gynllunio ar fin newid. Mae hynny'n cynnig cyfle arbennig i gynghorwyr gwrthod y cais os yw'n cael ei ail-gyflwyno. Byddwn ni'n ysgrifennu at aelodau'r pwyllgor a'r swyddogion i ofyn iddyn nhw ddefnyddio'r pwerau newydd, a fydd gyda nhw o ddechrau mis Ionawr ymlaen, er mwyn sicrhau bod nhw'n atal y datblygiad arfaethedig er lles yr iaith."