Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu penderfyniad pwyllgor cynllunio i wrthod cais i adeiladu dros dri chant o dai yn ardal Bangor.
Ysgrifennodd y mudiad at bwyllgor cynllunio y cyngor ychydig fisoedd yn ôl gan eu hatgoffa o'u pwerau newydd i wrthod datblygiadau ar sail eu heffaith ar yr iaith.
Dywedodd Bethan Ruth, swyddog maes lleol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydyn ni'n croesawu penderfyniad y cynghorwyr i bleidleisio yn erbyn y cais. Mae statws y Gymraeg yn y system gynllunio wedi cael ei chryfhau yn ddiweddar, ac rydyn ni'n falch bod cynghorwyr wedi defnyddio'r pwerau hynny. Dylai unrhyw ddatblygiadau adlewyrchu'r angen lleol am dai a rhoi buddiannau'r gymuned yn gyntaf, yn hytrach na buddiannau datblygwyr."