Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr agored at lywodraethwyr Ysgol Ffederal Carreg Hirfaen yn galw arnynt i wrthod pwysau gan y Cyngor Sir i gau dwy safle bentrefol yn Ffarmers a Llanycrwys. Mae'r Cyngor Sir wedi cynnig talu am bortacabin ychwanegol ar safle Cwman ac am gostau cludo'r plant ar yr amod fod y ddau safle arall yn cael eu cau yn Ionawr. Yn ei llythyr at gadeirydd y llywodraethwyr, mae'r Gymdeithas yn galw ar y Bwrdd i wrthod y blacmel hwn gan y Cyngor Sir.
Dywed Ffred Ffransis, Cadeirydd Grwp Addysg Cymdeithas yr Iaith:"Rydyn ni wedi aros yn dawel hyd yma gan obeithio y gallai'r llywodraethwyr setlo'r mater yn fewnol. Rhaid i ni siarad allan yn awr gan fod perygl wirioneddol y caiff dau safle bentrefol eu haberthu. Byddai hyn yn drychinebus i'r cymunedau pentrefol Cymraeg yn Ffarmers a Llanycrwys, ac yn wael iawn i addysg y plant. Byddai'n rhaid i'r plant gael eu cludo filltiroedd lawer bob dydd i'w gwasgu i mewn i adeiladau dros dro yng Nghwman, a byddai cefnogaeth rhieni a chymuned leol yn gwanhau.Rhaid i'r Llywodraethwyr sefyll dros yr hyn sydd iawn. Maen nhw wedi gwneud popeth posibl hyd yma i ddod i gyfaddawd gyda'r Cyngor Sir - gan gynnwys parodrwydd i gyfuno'r ddau safle fach ar un safle gydag arbedion sylweddol i'r ysgol ac i'r Cyngor o ganlyniad. Ond mae'r Cyngor yn mynnu cael ei ffordd ei hunan o gael gwared a phob safle bentrefol fechan. Mae'r Cyngor yn barod i wastraffu arian enfawr ar gludo plant bach ac ar adeiladau dros dro er mwyn cael ei ffordd ei hunan. Mae'r Cyngor hefyd yn barod i ddefnyddio blacmel gan fygwth peidio a rhoi adeilad dros dro oni chaeir y ddau safle arall. Rydym yn cydymdeimlo a'r Bwrdd Llywodraethol yn ei sefyllfa anodd, ond daeth bellach amser penderfynu. Rhaid iddynt osod esiampl i'r plant a gwneud yr hyn sydd iawn a gwrthod blacmel. Rhaid i'r Bwrdd wrthod cydweithio a'r Cyngor - a hynny am resymau addysgol, cymdeithasol ac er mwyn gwneud yr hyn sy foesol gywir".Mae llythyr y Gymdeithas yn ychwanegu mai anghyfrifol iawn fyddai i'r llywodraethwyr symud ymlaen i gau'r ddwy safle heb ymchwilio'n fanwl i'r holl bosibiliadau newydd sy'n codi o reoliadau drafft newydd llywodraeth y Cynulliad ar ffedereiddio ysgolion. Gallai Ysgol Carreg Hirfaen ddechrau trafodaethau gydag Ysgol Gynradd Llanbedr, Ysgol Uwchradd Llanbedr ac ysgolion eraill o ran sefydlu ffederasiwn gref a allai fod o fantais i bawb - gan fod y rheoliadau newydd yn caniatau ffedereiddio gydag ysgolion uwchradd a chydag ysgolion ardraws sirol.Ychwanegodd Ffred Ffransis:"Byddai'n hollol anghyfrifol i'r Llywodraethwyr gau safleoedd pentrefol heb ymchwilio'n broffesiynol i'r atebion eraill. Mae'r plant a'r cymundeau ynhaeddu hyn oleiaf"