Yn ei hymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus am gynnig Cyngor Ynys Mon i gau Ysgol Llanddona, mae Cymdeithas yr Iaith yn cyhuddo'r Cyngor o gydweithio mewn bwriad i droi ardaloedd gwledig Cymraeg yn
ardaloedd tawel ar gyfer mewnfudwyr wedi ymddeol.
Wrth gynnig tystiolaeth ar gyfer yr ymgynghoriad, dywed Ffred Ffransis ar ran y Gymdeithas fod yr Asesiad Effaith Gymunedol o gau'r ysgol "yn cydnabod y bydd cau ysgol yn atal teuluoedd ifainc rhag ymgartrefu
yn yr ardal ond y bydd yn denu pobl sy'n dod i "chwilio am gymdogaeth dawel". Mewn geiriau eraill, cydnabyddir y bydd cau'r ysgol yn prysuro proses o droi'r gymuned o fod yn gymuned hyfyw Gymraeg i fod yn ardal dawel ar gyfer ymfudwyr sy'n ymddeol"
Ar ben hyn y mae'r Gymdeithas yn dadlau y byddai cau'r ysgol yn gwbl anheg i addysg y plant gan fod cyfeiriad hefyd at yr angen am "olwg strategol pellach" ar addysg yr ardal - sy'n golygu y gallai'r plant
gael eu symud unwaith eto yn fuan wedyn ac na ddylid trin plant ifainc fel hyn.
Dywed Ffred Ffransis "Llawer gwell fydd disgwyl nes cwblhau'r arolwg strategol o addysg
de-ddwyrain yr ynys ac wedyn gweithredu unrhyw newidiadau angenrheidiol."
Mae'r Gymdeithas yn dadlau ymhellach fod Cyngor Ynys Mon wedi methu eto yn ei ddyletswyddau statudol i drafod pob opsiwn yn y ddogfen ymgynghorol statudol, yn lle ymgyfyngu i'w hoff opsiwn nhw. Mae'r Gymdeithas yn hyderus nad yw'r ymgynghoriad yn ddilys.