Heriwch y Llywodraeth nid pobl Gwynedd

Ar ddydd Llun, Hydref 20, bydd Cymdeithas yr Iaith yn mynegi eu
gwrthwynebiad chwyrn i gynlluniau Cyngor Gwynedd i gwtogi ar wariant.

Bwriad y Cyngor yw cynnal ymgynghoriad i weld lle mae pobl yn
dymuno gweld cwtogi. Maent yn gwerthu hyn fel 'Her Gwynedd' gan ofyn i bobl
gymryd rhan hyd yn oed os nad ydynt wedi gwneud dim byd fel hyn o'r blaen.

Meddai Angharad Tomos, aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Nid yw Cyngor Gwynedd erioed wedi gofyn am ein barn ar wariant
o'r blaen. Eto, pan fo polisi'r Toriaid o gwtogi ar wariant cyhoeddus, mae
galw ar y cyhoedd i gymryd rhan. Nid ymarferiad mewn democratiaeth yw hwn,
ond dilyn ideoleg gwbl groes i'r un gymunedol. Pam dylai y cyhoedd ddewis
rhwng llyfrgelloedd a gofal yr henoed? Mae'n gwbl abswrd. Mae 'Her Gwynedd'
yn ateb gweinyddol i gwestiwn gwleidyddol, ac mae angen i'w ateb yn
wleidyddol trwy wrthwynebu'r toriadau.'

Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Rhanbath Gwynedd a Môn o Gymdeithas yr
Iaith Gymraeg:

‘Rhaid cofio bod economi Gwynedd yn seiliedig ar wasanaethau
cyhoeddus felly bydd y toriadau’n gwneud drwg, nid yn unig i’r gweithwyr
hynny, ond i’r economi yn ehangach. I'r perwyl hwn, byddwn yn gwrthwynebu
Her Gwynedd. Yr her go iawn yw herio'r toriadau. Dylai Cyngor Gwynedd anfon
neges glir i'r Cynulliad i ddweud eu bod yn erbyn polisi toriadau, ac o
blaid cadw gwasanaethau cymunedol. Os yw’r Cyngor yn barod i weithio yn
erbyn y toriadau byddwn yn barod i gydweithio â nhw.’