Holiaduron Addysg Cyngor Sir yn Ddi-ystyr

sionedelin.jpgCred Cymdeithas yr Iaith bod holiadur a anfonwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin at rieni yng Nghwm Gwendraeth yn gamarweiniol ac o'r herwydd bydd y canlyniadau'n ddi-ystyr. Ymddengys bod y Cyngor wedi dilyn geiriad Llywodraeth y Cynulliad wrth ddiffinio categorïau ieithyddol posib ar gyfer addysg uwchradd, ond mae'r diffiniadau'n gamarweiniolYn ystod yr wythnos diwethaf danfonwyd yr holiadur gan y Cyngor at rieni plant ysgolion cynradd ardal Dinefwr a Chwm Gwendraeth. Bwriad y Cyngor yw cael barn rhieni am iaith y dair ysgol uwchradd fydd yn cael eu sefydlu adeg yr ad-drefnu addysg.Dywedir bod 3 opsiwn - categori 1 (ysgol Gymraeg) a chategori 2A a 2B sy'n cael eu galw'n ysgolion dwyieithog. Ond, mae hyn yn gwbl gamarweiniol - mae ysgol 2A yn ddwyieithog ond nid ysgol ddwyieithog mo ysgol 2B. Mewn ysgol 2B nid oes modd gwneud pob pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg, a ni fydd natur Gymraeg i'r ysgol gan na fydd pob disgybl ac athro yn medru'r Gymraeg. Nid ysgol fel Maes-yr-Yrfa fydd hi, ond nid dyna'r argraff a gaiff rhieni sy'n darllen geiriau cyntaf disgrifiad ysgol 2B, sef "addysgir 80% o'r pynciau'n Gymraeg". Gallesid dweud "Addysgir 100% o'r pynciau yn Saesneg"

Gall plentyn fynd i ysgol 2B heb fedru gair o Gymraeg, dilyn ei holl addysg trwy gyfrwng y Saesneg (heblaw am bwnc Cymraeg) a gorffen ei yrfa yn yr ysgol honno heb ddod yn ddwyieithog. Mewn sefyllfa o'r fath, mae ethos yr ysgol yn siwr o gael ei heffeithio â'r Gymraeg yn cael ei gwanhau. Mae'r opsiwn 2B yn cyfyngu ar addysg Gymraeg ac yn gam yn ôl anferth i Gwm Gwendraeth lle mae'r holl ysgolion cynradd yn ysgolion Cymraeg categori A a mwyafrif y disgyblion yn derbyn addysg uwchradd yn ysgol wirioneddol ddwyieithog Maes-yr-Yrfa. Os bydd Cyngor Sir Gár yn cau Ysgol Maes-yr-Yrfa, ac agor ysgol 2B yn ei le, hon fyddai'r sir cyntaf yn hanes addysg Gymraeg i is-raddio statws ysgol Gymraeg.Dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeihas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin, a rhiant i 4 o blant yng Nghwm Gwendraeth:"Mae'n ffaith ddiymwad fod bron i deirgwaith mwy o ddisgyblion wedi dewis addysg Gymraeg trwy fynd i Ysgol Maes-yr-Yrfa (categori 2A) nag i Ysgol y Gwendraeth. Mae'n ffaith ddiymwad fod niferoedd disgyblion Ysgol Maes-Yr-Yrfa yn tyfu a bod yr ysgol yn darparu addysg wych a cael canlyniadau ardderchog. Cam anferthol yn ól o safbwynt safon addysg a addysg Gymraeg fyddai cau Ysgol Gymraeg Maes-yr-Yrfa. Rhaid sicrhau fod pob plentyn yn ddwyieithog pan yn gadael ysgol uwchradd yng Ngwm Gwendraeth ac na amddifedir neb o'r gallu i gyfathrebu'n Gymraeg, a dim ond trwy ysgol categori 1 neu 2A y bydd hynny'n digwydd."