HSBC: ‘mae’r Gymraeg yn iaith estron’

Mae galwadau ar i fanciau ddarparu gwasanaethau Cymraeg ar y we, yn dilyn ymateb gan HSBC i gŵyn sy’n dweud bod yr iaith yn ‘estron’.  

Dros yr wythnosau diwethaf, mae cannoedd o gefnogwyr Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn cwyno wrth y banciau am y ffaith nad oes yr un ohonynt yn darparu gwasanaeth bancio ar-lein yn Gymraeg. Mewn ymateb i un o’r cwynion, a wnaed gan Nia Lloyd o Wrecsam, dywedodd swyddog o HSBC: I notice that we have recieved (sic) the message in Foriegn (sic) language. I request you to kindly send the message in English and we will be glad to assist you further.Yn dilyn cwyn arall gan yr achwynydd, derbyniodd ymddiheuriad gan y banc.  

Mae’r Gymraeg yn un o ieithoedd hynaf Ewrop. Ar un adeg bu’n brif iaith y rhan fwyaf o Ynys Prydain, ac mae’n dal i gael ei siarad gan gannoedd o filoedd o bobl ledled gwledydd Prydain. Er bod crynodeb o’r gŵyn yn Saesneg ar waelod y neges, mae HSBC hefyd wedi bod yn e-bostio achwynwyr yn gofyn iddyn nhw ail-anfon yr ohebiaeth yn Saesneg. 

Mewn ymateb gan Barclays i achwynydd arall am y diffyg cyfleusterau bancio dros y we yn Gymraeg, ymatebodd swyddog: I know how difficult it is having it is using English as our official language in our Online banking. You may send us a suggestion and we'll submit it to our Development Team for them to study and implement an online banking in Welsh language. I'm sure they will consider it. I also advise some foreign customers to use Google translator if they're having a hard time with some English words because I also use it and it's very dependable. I know some high end phones also have translator using only cameras and they're frequently used by tourists. 

Meddai Tamsin Davies o Gymdeithas yr Iaith: 

"Mae'r sylwadau yn sarhaus, ond nid yn annisgwyl wedi'r cwbl, mae banciau yn amharchu'r Gymraeg a'i siaradwyr bob dydd. Does yr un banc yn darparu gwasanaethau bancio ar-lein yn Gymraeg. Dyna pam fod Nia, a channoedd o bobl, wedi cysylltu â’u banciau dros yr wythnosau diwethaf i godi eu pryderon am y diffyg gwasanaethau bancio yn Gymraeg. Ond yn lle ymateb i'r cwynion, mae'n ymddangos bod HSBC a banciau eraill yn meddwl bod siarad fel hyn yn briodol.  

"Mae'n rhaid cofio bod nifer o gwmnïau mawrion eraill eisoes yn darparu gwasanaethau Cymraeg ar-lein. Mae nifer o raglenni Microsoft yn cynnwys rhyngwyneb Cymraeg, megis Hotmail, ac mae rhai o wasanaethau Google ar gael yn Gymraeg. Ond eto mae banciau fel HSBC yn gwrthod caniatáu i chi fancio ar-lein yn Gymraeg. Mae trethdalwyr yng Nghymru wedi achub y sector bancio, siawns ein bod yn haeddu gwasanaethau yn iaith swyddogol ein gwlad.” 

Mae Cymdeithas yr Iaith bellach wedi ysgrifennu at benaethiaid HSBC a Barclays gan ofyn am gyfarfod i drafod y materion hyn.
 

Y stori yn y Wasg:

South China Morning Post

Daily Post

Western Mail

Golwg 360

The Guardian

The Independent / I News