Cynhaliwyd brotest gan tua 50 o aelodau a chefnogwyr ifanc Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin yn nerbynfa Neuadd y Sir Caerfyrddin heddiw, i fynnu fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithredu ar frys i ddiogelu'r iaith a chymunedau Cymraeg yn y sir yn dilyn cyhoeddi ffigurau'r Cyfrifiad.
Esboniodd Sioned Elin, Cadeirydd y Gymdeithas yn lleol:
"Mae'r Cyngor Sir wedi sefydlu gweithgor i edrych ar y mater, a'r Llywodraeth yn sefydlu comisiwn. Mae pawb am gael eu gweld yn "gwneud rhywbeth" am y sefyllfa ond fe all sefydlu pwyllgorau fod yn gyfrwng i sicrhau camau gweithredol neu'n gyfrwng i osgoi gweithredu. Bwriad y Gymdeithas felly yw parhau i bwyso er mwyn pwysleisio'r angen am weithredu brys, heb dorri ar draws gwaith y Cyngor."
Ychwanegodd Martha Grug, un o'r protestwyr ifanc sy'n ddisgybl yn Ysgol maes yr Yrfa:
“Fe wnaethon ni gynnal rali fawr a gig tu allan i Neuadd y Sir Caerfyrddin fis Ionawr ac rydyn ni wedi cyflwyno i'r Cyngor enwau dros 1,500 o bobl sydd wedi addunedu byw yn Gymraeg. Y tro hwn mae nifer o bobl ifanc Sir Gâr wedi symud i mewn i'r adeilad ac yn cynnal gig tu fewn a thrafodaeth am ddyfodol y Gymraeg yn y sir dan arweiniad pobl ifanc Sir Gâr. Roedden ni am ddangos fod pobl ifanc yn becso hefyd a bod angen i'r Cyngor Sir wneud rhywbeth i sicrhau fod dyfodol i bobl ifanc sydd am fyw yn Gymraeg yn y sir."
Y stori yn y wasg: