KFC Bangor - ymateb Cymdeithas

Mae mudiad iaith wedi ymateb i honiadau sydd wedi eu hadrodd yn y wasg bod siop KFC ym Mangor wedi atal gweithiwr rhag siarad Cymraeg gyda chwsmeriaid. 

Dywedodd Tamsin Davies o Gymdeithas yr Iaith:

"Mae’n honiad difrifol iawn. Ac, os yw’n wir, mae’n hollol annerbyniol; dylai KFC ymddiheuro’n syth a mabwysiadu polisi clir bod gan eu staff a’u cwsmeriaid yr hawl ddiamod i gyfathrebu’n Gymraeg. Ers 2011, mae wedi bod yn anghyfreithlon ymyrryd â rhyddid pobl yng Nghymru i gyfathrebu yn Gymraeg. Rydyn ni wedi cysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg gan ofyn iddo agor ymchwiliad i’r honiadau hyn.  

“Ar lawr gwlad, dros y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion lle mae cyflogwyr yn gwahardd defnydd o'r iaith. Mae'n bwysig bod pobl yn cwyno wrth Gomisiynydd y Gymraeg yn uniongyrchol os oes honiad o'r fath. Ond rydyn ni hefyd yn annog y Comisiynydd i wneud llawer iawn mwy i godi ymwybyddiaeth o’r gyfraith ac i daclo’r rhagfarn yn erbyn lleiafrifoedd a’r Gymraeg sydd tu ôl i’r digwyddiadau a pholisïau ofnadwy hyn."