Lansio Deiseb yn galw am Ddeddf Iaith Newydd

Ble mae'r Gymraeg?Am 1pm heddiw, tu allan i Uned Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio Deiseb Genedlaethol dros Ddeddf Iaith Newydd.

Mae'r Deiseb yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau Deddf Iaith Newydd fydd yn sefydlu statws swyddogol a Chomisiynydd i'r Gymraeg, ynghyd â hawliau sylfaenol fydd yn rhoi cyfleoedd teg a real i bawb yng Nghymru fedru dysgu Cymraeg, derbyn addysg Gymraeg a chael eu galluogi i ddefnyddio'r Gymreg ym mhob agwedd o fywyd.Daw hyn 10 niwrnod cyn Gwyl Fawr Deddf Iaith Newydd Cymdeithas yr Iaith, a fydd yn cael ei gynnal yn Naghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth am 2pm ar y 10fed o Fehefin.Yn yr Wyl bydd datganiad gan yr Aelod Cynulliad Eleanor Burnham, yr Aelod Cynulliad Lisa Francis, Arweinydd yr Wrth-Blaid Ieuan Wyn Jones, cynrychiolwyr o fudiadau led-led Cymru yn ogystal â beirdd, bandiau a rapwyr enwog, oll yn cefnogi'r alwad am Ddeddf Iaith Newydd.