
Wrth ymateb i gyhoeddiad Cyngor Sir Gâr eu bod yn dechrau cyfnod o ymgynghori i newid darpariaeth Cyfnod Sylfaen ysgolion Y Ddwylan, Griffith Jones, Llangynnwr a Llys Hywel i fod yn Gymraeg a newid Ysgol Rhys Pritchard o fod yn ddwy ffrwd i fod yn ysgol Gymraeg dywedodd Sioned Elin ar ran Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin:
"Rydyn ni'n llongyfarch y cyngor am ddechrau ymgynghoriad er mwyn gosod pump o ysgolion y sir ar lwybr tuag at addysg Gymraeg, a hyderwn y bydd cefnogaeth eang i hynny."