Wrth i 'Made in North Wales TV' lansio heddiw, mae ymgyrchwyr iaith wedi galw am ddatganoli darlledu i Gymru er mwyn sicrhau mwy o Gymraeg ar sianeli teledu lleol.
Dim ond 30 munud o raglenni Cymraeg gwreiddiol - allan o 99 awr o ddarlledu'r wythnos - fydd ar y sianel newydd sy'n dechrau darlledu o'i phencadlys yn Lerpwl heddiw.
Meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Yn syml, mae angen diddymu [y rheoleiddiwr darlledu] Ofcom a sefydlu system rheoleiddio darlledu ar wahân ar gyfer Cymru, gyda'r Gymraeg fel rhan o waith craidd y gyfundrefn newydd. Mae'r problemau gyda 'Made in North Wales', sy'n darlledu o Lerpwl, yn rhan o batrwm o ymddygiad gan Ofcom. Maen nhw'n ffafrio anghenion busnesau mawrion yn hytrach na'r gymuned leol a'r Gymraeg. Rydym wedi gweld datblygiadau tebyg ar radio masnachol lleol dros y degawdau diwethaf. Mae'n gwbl annerbyniol.
"O ddiffyg presenoldeb y Gymraeg ar radio masnachol, teledu lleol a’r toriadau difrifol i S4C i’r diffyg cynnwys Cymreig yn y cyfryngau, mae’n glir nad yw Llundain yn rheoli'r cyfryngau er budd pobl Cymru. Mae angen i’r penderfyniadau dros y cyfryngau yng Nghymru gael eu gwneud gan bobl Cymru. Mae’n bryd datganoli darlledu. Mae hi hefyd yn amlwg bod gan Gymru ddiffyg democrataidd mawr, oherwydd bod y darlledwyr Prydeinig yn drysu pobl drwy adrodd ar yr holl benderfyniadau sy'n effeithio ar Loegr yn unig. Bydd y problemau democrataidd hyn yn dwysau os yw Ofcom yn caniatáu i deledu lleol ar gyfer Cymru gael ei gynhyrchu yn Lloegr. "