"Mae ymgyrchu yn gallu newid y sefyllfa" - Lawnsiad llyfr protest

Llun Gair I Gell.jpgBydd llyfr newydd sydd yn esbonio hanes degawd o ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ddechrau mileniwm newydd yn cael ei lansio yng Nghaernarfon heddiw.Sbardun cyhoeddi'r llyfr hwn oedd rhannu'r rhai o'r cannoedd o lythyrau a chardiau a dderbyniodd Osian Jones tra yn HMP Altcourse yn ystod Rhagfyr 2009 am ei ran yn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.Bydd y llyfr ar werth am £4.95 o siopau llyfr Cymraeg ar hyd a lled Cymru, neu o swyddfa Gogledd Cymdeithas yr Iaith, 10 Stryd y Plas, Caernarfon - 01286 662908

Mae'r negeseuon yn cyfleu anfodlonrwydd y Cymry gyda statws y Gymraeg ar hyn o bryd, a'u cefnogaeth i aelod o Gymdeithas yr Iaith oedd yn barod i wynebu carchar.Cyn y lawnsiad, dywedodd golygydd y llyfr Angharad Tomos:"Mae llyfr hwn yn profi na fydd Cymdeithas yr Iaith yn rhoi'r gorau i ymgyrchu nes cael Deddf Iaith deilwng. Mae ymgyrchu yn gallu newid y sefyllfa - dyna neges syml y llyfr. Mae hefyd yn dangos fod gan do newydd o brotestwyr ddigon o ymroddiad i barhau'r frwydr. Nid oes gennym yr hawl i'w gadael ar drugaredd y farchnad rydd. Wrth frwydro dros y Gymraeg, rydym yn brwydro dros bobl, dros gymuned, ac dros gyfiawnder. Braint yw bod yn rhan ohoni."Mae yma hiwmor, dwyster, eironi a chariad yn gymysg yn y llyfr, sydd wedi ei ddylunio yn ddifyr gyda chasgliad anhygoel o luniau diweddar. Ychwanegodd Osian Jones:"Mi fydd y llyfr yma yn dangos yn well na dim anfodlonrwydd pobl Cymru gyda statws yr iaith Gymraeg ar hyn o bryd. Mi fydd hefyd yn dangos bod yna do ifanc newydd o arweinwyr yn fodlon parhau ar frwydr dros hawliau ac urddas i'r iaith Gymraeg"