Mesur Iaith: Arestio ymgyrchwyr

gweithred-aber-tach10.jpg

Mae chwech ymgyrchydd iaith wedi cael eu harestio ar ôl peintio sloganau ar adeiladau'r Llywodraeth heddiw mewn protest ynglýn a diffygion y Mesur Iaith Gymraeg.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, nid yw'r Mesur yn cyflawni addewidion y Llywodraeth i sefydlu hawliau i'r Gymraeg a statws swyddogol. Peintiodd yr ymgyrchwyr sloganau "hawliau a statws" a "hawliau clir" ar adeiladau'r Cynulliad yng Nghaerdydd ac Aberystwyth.Arestiwyd y chwech wrth i'r Llywodraeth gadarnhau na fydd yn sefydlu'r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y ddeddfwriaeth.

Fe ddywedodd Ceri Phillips, Cadeirydd Grwp Hawliau i'r Gymraeg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Rydym ni, a phobl ar draws Cymru, wedi dweud wrth y Llywodraeth droeon na fydd eu cynlluniau yn gwireddu addewidion 'Cymru'n Un' i sefydlu hawliau a statws swyddogol i'r Gymraeg. Ond, nid ydynt wedi gwrando; mae nhw wedi torri eu gair."Mae'r Gweinidog yn honni nad yw eisiau i bobl fynd i'r llys, ond bydd ein hymgyrchwyr yn parhau i fynd yna oherwydd methiant y Llywodraeth.""Yn ystod y misoedd diwethaf, mae aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac eraill wedi ceisio cynorthwyo'r Llywodraeth i wella'r Mesur hwn er lles y Gymraeg. Mewn cyfarfod, mewn llythyr ac mewn erthygl, mewn gwelliannau cyfreithiol manwl rydym wedi gwneud ein safbwyntiau yn glir. Ond heb lwyddiant. Mae hynny'n warthus oherwydd bod gan y Llywodraeth gyfle hanesyddol i osod y Gymraeg ar sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol. Maen nhw wedi gwastraffu'r cyfle."Mae ein haelodau ni wedi gweithredu'n uniongyrchol, ac yn awr mae nhw yng nghelloedd yr heddlu ac yn barod i dderbyn y canlyniadau er mwyn dangos pa mor dyngedfennol yw'r bleidlais yn y Senedd mis nesaf. Rydym yn galw ar aelodau'r Cynulliad i gynnig gwelliannau er mwyn achub Mess-hir y Llywodraeth."

Ychwanegodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Bethan Williams:"Mae trwch pobl Cymru am weld gwireddu'r tri addewid a wnaed yn y cytundeb rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru a ffurfiodd y Llywodraeth yma. Ond maen nhw wedi gwrthod gwneud hynny. Bydd rhaid i ni ddechrau ymgyrch o'r newydd yn galw am hawliau a statws swyddogol mewn deddf gwlad. Byddwn ni'n parhau i alw am hawliau clir i'r Gymraeg i holl drigolion Cymru, boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio, oherwydd bod yr iaith Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru."

Ymgyrchwyr Aberystwyth: Delyth Efans, Llanllyfni; Ioan Teifi, Pencader; Eleri Sion, Rhydaman; Euros ap Hywel, Caerdydd.

Ymgyrchwyr Caerdydd Jamie Bevan, Merthyr; Heledd Melangell Williams, Nant Peris.