Miloedd o dai i weithwyr Wylfa-B er iddi gael ei chanslo?

Mae cynghorwyr yn Ynys Môn a Gwynedd wedi eu rhybuddio i beidio â chadw at gynllun i adeliadu miloedd o dai ar gyfer gweithwyr i Wylfa-B er bod y prosiect wedi eu canslo, wrth iddyn nhw ystyried diwygio eu Cynllun Datblygu Lleol. 

Mae Cabinet Cyngor Sir Gwynedd yn cael ei argymell yn ei gyfarfod heddiw (dydd Mawrth, 15fed Hydref) i gadw at yr un Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar y cyd rhwng Gwynedd a Mon. Bydd yr un adroddiad yn cael ei drafod gan gabinet Ynys Môn wythnos nesaf. Ac hynny, er ei fod yn seiliedig ar adeiladu Wylfa-B, a gafodd ei ganslo ym mis Ionawr eleni. 

Noda’r adroddiad i’r cabinet: “Cyhoeddodd Hitachi ei bod yn bwriadu oedi gyda’r bwriad o ddatblygu’r Orsaf Niwclear Newydd” ac “Wrth asesu perfformiad y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, yn ogystal ag ystyried y dangosyddion, mae rhaid i’r Adroddiad Monitro Blynyddol ystyried unrhyw newidiadau cyd-destunol cenedlaethol, rhanbarthol a lleol sydd wedi digwydd yn y flwyddyn flaenorol.”  Ond eto, mae swyddogion yn argymell peidio â newid y cynllun yn sgil penderfyniad Hitachi i dynnu allan o Wylfa-B gan ddweud: “nid oes tystiolaeth sy'n dangos bod angen adolygiad cynnar o'r Cynllun.” 

Meddai Robat Idris o Gymdeithas yr Iaith:

“Byddai’n esgeulus, byrbwyll ac annoeth dros ben i fwrw ymlaen gyda’r un Cynllun Datblygu er bod y prif brosiect sy’n ganolog iddo wedi ei chanslo. Mi fedran nhw ddadlau mai dim ond oedi sydd wedi digwydd i Wylfa-B, ond mae’n amlwg bod angen addasu cynlluniau. Byddai’n wirion i fwrw ymlaen fel nad oes dim byd wedi newid. Mae’n amlwg bod hyn yn newid anferthol i’r cyd-destun, ond eto, mae swyddogion eisiau anwybyddu fe. Mae miloedd a miloedd o dai yn y Cynllun Datblygu ar gyfer gweithwyr i brosiect sydd wedi ei chanslo. Mae swyddogion cynghorau Gwynedd a Môn yn rhoi eu pennau yn y tywod. Gobeithio na fydd cynghorwyr yn ymddwyn fel cŵn bach y swyddogion unwaith eto:  mae gwir angen iddyn nhw wynebu realiti’r sefyllfa. 

“Rhyfeddwn fod yr adroddiad monitro yn diystyru penderfyniad cwmni Hitachi o Siapan (perchnogion cwmni Horizon Nuclear Power Limited)  i atal datblygiad Wylfa B, gan ddyfynnu’r ffaith fod y broses cynllunio yn dal i fynd rhagddi. Y gwir plaen yw mai Wylfa B oedd yn gyrru’r Cynllun Datblyu Lleol, a gan fod amheuon mor ddybryd amdano ers blynyddoedd – fel y dadleuwyd gan lawer pan luniwyd y Cynllun yn y lle cyntaf – mae angen paratoi Cynllun Datblyu sy’n wynebu’r posibilrwydd na chaiff yr atomfa ei hadeiladu fyth.  Mae hyd yn oed cwmni Horizon yn mynegi pryderon am ddyfodol y cynllun yn eu hadroddiad blynyddol am y flwyddyn. Cred y Gymdeithas felly yw bod angen diwygio’r Cynllun yn drwyadl, a hynny ar fyrder. 

Ychwanegodd:

“Mae’n rhaid i'r cynghorau a’r Llywodraeth fod yn gall nawr, ac ail-ystyried eu strategaeth economaidd. Maen nhw wedi bod yn rhoi’r holl wyau yn yr un fasged am lawer rhy hir. Rydyn ni wedi dadlau ers tro bod gwthio am atomfa newydd, nid yn unig yn beryg i’r amgylchedd ac i'r iaith, ond hefyd yn hen dechnoleg sy’n anfforddiadwy. Dylen nhw fod wedi rhagweld hyn yn dod yn sgil trychineb Fukushima. Mae angen canolbwyntio nawr ar gynigion ymarferol a fyddai o fudd i'r economi, i'r amgylchedd ac i'r iaith, fel sefydlu cwmni ynni cenedlaethol a buddsoddi mewn technolegau ynni adnewyddadwy a glân.”