
Cyn trafodaeth ar Bolisi Iaith Cyngor Môn ddydd Iau 6 Mawrth mae rhanbarth Gwynedd a Môn Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at gynghorwyr i nodi pryder am ymrwymiad y cyngor i weinyddu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Wrth fabwysiadu eu Polisi Iaith Gymraeg yn 2016 fe wnaeth Cyngor Môn ymrwymo i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn eu gweinyddiaeth fewnol, i lunio rhaglen dreigl chwe blynedd i newid iaith gweinyddiaeth y Cyngor fesul adran, i fonitro'r cynnydd yn flynyddol a chyflwyno adroddiad cynnydd i'r Pwyllgor Sgriwtini gydag adroddiad blynyddol ar weithrediad y Polisi Iaith Gymraeg.
Rydyn ni wedi codi pryderon sawl gwaith am ymrwymiad y Cyngor i'r nod o wneud y Gymraeg yn brif iaith gweinyddiaeth fewnol y Cyngor. Mae hynny am nad oes adroddiad blynyddol ar gynnydd tuag at weinyddu drwy'r Gymraeg wedi ei gyhoeddi ers 2018, doedd Strategaeth Hybu'r Gymraeg y Cyngor yn 2023 ddim yn cynnwys y nod ac am nad oes ymrwymiad yn y Polisi Iaith fydd yn cael ei drafod gan y Cyngor Llawn i symud at weinyddu drwy'r Gymraeg.
Dywed y llythyr gan Robat Idris ar ran Rhanbarth Gwynedd a Môn Cymdeithas yr Iaith:
"Yn dilyn cyhoeddi Polisi Iaith drafft newydd y mis hwn, i gymryd effaith o 2025 ymlaen, mae'n pryderon wedi’u cadarnhau. Does dim sôn am symud at wneud y Gymraeg yn brif iaith weinyddol y Cyngor ar lafar ac yn ysgrifenedig, dim ond at y Gymraeg fel "iaith naturiol" cyfarfodydd."
Yn ogystal, mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud yn y llythyr bod cymal 14.3 y polisi iaith arfaethedig yn "tynnu oddi ar yr hawl i weithio yn Gymraeg" gan ei fod yn nodi bod yr hawl i weithio trwy'r Gymraeg yn ddibynnol ar ofynion ieithyddol eu swyddi ac effeithiolrwydd cyfathrebu mewnol.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith:
"Nid yn unig bod hynny yn groes i'r polisi ond dylid ystyried a yw'n groes i ysbryd yr egwyddor Mesur y Gymraeg 2011 o ryddid unigolyn i ddefnyddio’r Gymraeg."
Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Môn wedi cymeradwyo'r polisi eisoes, ond mae'n rhaid i'r Cyngor Llawn ei gymeradwyo hefyd. Mae Cymdeithas yr Iaith yn gofyn i gynghorwyr felly alw am:
- ail-gyflwyno ymrwymiad i'r nod mai Cymraeg fydd prif iaith gweinyddiaeth fewnol y Cyngor, ar lafar ac yn ysgrifenedig
- ail-afael yn yr ymrwymiad i gyhoeddi adroddiad penodedig ar y Gymraeg o fewn y weinyddiaeth fewnol i’w graffu yn flynyddol gan y pwyllgor craffu
- gyhoeddi dyddiad targed ar gyfer cwblhau’r gwaith o newid iaith gweinyddiaeth adrannau’r Cyngor
Mae'r llythyr gan ranbarth Gwynedd a Môn Cymdeithas yr Iaith at Gyngor Môn i'w weld trwy bwyso yma.