Ynys Môn i drafod rhagdyb o blaid cau ysgolion pentre

Mae Adran Addysg Cyngor Ynys Môn yn ceisio rhagdybio o blaid cau ysgolion pentre wrth i Bwyllgor Sgriwtini Corfforaethol y cyngor drafod Adroddiad Ymgynghori ar y "Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg".

Er bod y Côd Trefniadaeth Ysgolion yn gosod rhagdyb o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor ac er gwaetha ymatebion yn pwysleisio'r angen i ystyried camau heblaw cynnal ysgolion gwledig prin bod newidiadau i'r Strategaeth.

Ar ran y Gymdeithas, dywed Ffred Ffransis: "Prin bod y "Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg" yn dilyn ymgynghori, ond bydd y strategaeth gerbron Pwyllgor Gwaith Ynys Môn union fis wedi cyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol felly galwn ar y pwyllgor sgriwtini i ail-ystyried yr adroddiad cyn iddo fynd at y Pwyllgor Gwaith, fel bod rhagdyb o blaid ysgolion gwledig.
"Fel i ni ddweud yn ystod yr ymgynghoriad, mae strategaeth yn ddogfen ddiddychymyg a digalon gan y Cyngor, a'r prif nod yw trio gwthio unwaith eto eu hobsesiwn i gau ysgolion gwledig Cymraeg. Maen gwisgo hen bolisi a rhagfarn mewn dillad newydd gan honni mai ceisio lleihau ôl-troed carbon yw'r nod oherwydd adeiladau diffygiol y mae'r Cyngor ei hun yn euog o beidio â buddsoddi ynddynt, a thrwy honni eu bod yn ymateb i agenda gwrth-dlodi Llywodraeth Cymru sydd ei hun wedi rhoi llawer o'r ysgolion ar Restr Ysgolion Gwledig er mwyn eu gwarchod, trwy fod rhagdyb o blaid eu cadw ar agor."