Daeth dros 200 o brotestwyr ynghyd ym Mangor heddiw er mwyn gwrth-dystio ar fyr rybudd yn erbyn Morrisons ar ôl i’r cwmni wrthod rhoi meddyginiaeth i glaf am fod y presgripsiwn yn Gymraeg.
Ymysg y siaradwyr yn y gwrth-dystiad, roedd yr Aelod Seneddol lleol dros Arfon Hywel Williams, y Cynghorydd Sian Gwenllian a Sian Howys o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Yn siarad wedi’r brotest, dywedodd Sian Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Roedd consensws yn y brotest heddiw bod angen ymddiheuriad gan y cwmni am yr hyn ddigwyddodd. Ac, yn sicr, bod angen newid polisiau recriwtio fel bod gwasanaethau iechyd yn gallu darparu gwasanaeth Cymraeg cyflawn. Dyn ni heb glywed bod Llywodraeth Cymru yn codi’r mater gyda’r cwmni na’r bwrdd iechyd - mae angen datganiad clir gan y Gweinidog Iechyd am y mater.”
“Dylai fod gan bawb yr hawl i fyw yn Gymraeg - o’r meddygon sydd eisiau gweithio yn Gymraeg i’r cleifion sydd am dderbyn triniaeth yn Gymraeg. Mae’r hyn mae Morrisons wedi ei wneud yn gwbl groes i’r statws swyddogol sydd gan y Gymraeg, ac wedi peri loes i’r teulu. Rydyn ni wedi ysgrifennu at y cwmni gan fynnu eu bod yn ymddiheuro’n syth ac eu bod yn cadarnhau na fyddan nhw’n caniatau i’r fath beth ddigwydd eto. Rydyn ni wedi cysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg hefyd gan ofyn iddi ystyried beth yw’r posibiliadau o ran dwyn camau cyfreithiol yn erbyn y cwmni.”
Ychwanegodd: “Dylai’r digwyddiad hwn ein hatgoffa bod angen i’r safonau iaith - rheoliadau Llywodraeth Cymru fydd yn gosod dyletswyddau ar gyrff i ddarparu gwasanaethau Cymraeg - wneud yn siŵr nad yw problemau difrifol fel hyn yn dal i godi. Mae angen sicrhau bod y safonau sy’n ymwneud â’r gwasanaethau iechyd yn rhoi hawl i’r Gymraeg. Ond hefyd, mae angen sicrhau bod deddfwriaeth iaith yn ymestyn dros ragor o’r sector breifat, megis archfarchnadoedd."