Myfyrwyr yn targedu Morrisons

Mae myfyrwyr Cell Pantycelyn wedi pastio posteri ar siop Morrisons yn Aberystwyth fel rhan o ymgyrch genedlaethol Cymdeithas yr Iaith yn erbyn yr archfarchnad oherwydd diffyg gwasanaethau Cymraeg.
 
Bu’r myfyrwyr yn gosod posteri ‘Boicot Morrisons’ ar faneri hysbysebu Morrisons. Mae cannoedd o bobl wedi ymrwymo i beidio â siopa gyda'r cwmni sydd wedi gweld ei elw yn cwympo dros y misoedd diwethaf.
 
Dywedodd Manon Elin, aelod o’r gell ac is-gadeirydd grŵp hawliau iaith y Gymdeithas:
"Rydyn ni'n lwcus fel myfyrwyr yn Aberystwyth fod cymuned Gymraeg naturiol gyda ni, ond tu hwnt i hynny mae cwmnïau fel Morrisons yn dangos fod angen ychwanegu archfarchnadoedd a siopau’r stryd fawr i’r rhestr o gwmnïau sydd yn dod o dan ddeddfwriaeth iaith, er mwyn sicrhau bod hawliau siaradwyr Cymraeg yn cael eu parchu ym mhob maes.”
 
Fis Ionawr 2014 bu cynnwrf wedi i staff Morrisons wrthod presgripsiwn gan ei fod yn Gymraeg, ac ysgrifennodd Cymdeithas yr Iaith at y cwmni gan fynnu cyfarfod i drafod newidiadau a fyddai’n sicrhau tegwch i’r Gymraeg, ac i gwsmeriaid y cwmni yng Nghymru. Ers mis Rhagfyr 2014 rydyn ni wedi bod yn cynnal boicot cenedlaethol o siopau Morrisons, tan eu bod yn gweithredu galwadau penodol.
 
Ychwanegodd Manon Elin:
“Cyn gweithredu heddiw, bu Cell Pantycelyn yn cynnal arolwg o'r ddarpariaeth Gymraeg yn siop Aberystwyth ac yn genedlaethol rydyn ni wedi bod, ac yn parhau i, drafod gyda Morrisons ond hyd yn oed wedi blynyddoedd o drafodaethau, nid ydym ni wedi gweld unrhyw newid sylweddol, a does dim polisi iaith cenedlaethol ganddyn nhw o hyd. Er mai yn Aberystwyth ydyn ni heddiw, mae angen arweiniad canolog. Mae’n rhaid i Morrisons fabwysiadu polisi iaith cenedlaethol sy’n adlewyrchu statws y Gymraeg, ac sy’n creu cysondeb drwy eu holl siopau yng Nghymru. Allwn ni ddim parhau i dderbyn addewidion gweigion dros gyfnod o fisoedd a blynyddoedd, heb weld unrhyw ddatblygiad.
"Mae arwyddion uniaith Saesneg wedi cymryd lle rhai dwyieithog yn ddiweddar, wrth iddynt ail-frandio rhai o’u siopau yng Nghymru. Nid oes cyfiawnhad dros hyn. Credwn fod dyletswydd ar Morrisons, fel cwmni sy’n gwneud elw yng Nghymru, i barchu’r Gymraeg.”
 
 
Y stori yn y wasg: