Mynyddcerrig - Penderfynwyd ymlaen llaw

Ysgol MynyddcerrigBydd dyfodol yr ysgol gynradd Gymraeg ei chyfrwng ym Mynyddcerrig yn dod gerbron Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin am y tro olaf bore fory (10am Mawrth 9ed Ionawr).

Bydd yr aelodau'n trafod argymhelliad terfynol y swyddogion y dylid cadarnhau'r Rhybudd Statudol i gau'r ysgol ar waetha'r gwrthwynebiadau a chaiff y mater ei danfon o ganlyniad at Weinidog Addysg y Cynulliad, Jane Davidson, am benderfyniad.Mae hyn yn dilyn ralïau a phrotestiadau yn Neuadd y Sir dros y flwyddyn ddiwethaf - gan gynnwys gollwng mynydd o ddwy dunnell o gerrig ar risiau'r Cyngor - protestiadau yn y pentref gan gynnwys cau car swyddogion addysg y Cyngor mewn maes parcio am awr, a dwsinau o wrthwynebiadau ysgrifenedig hirfaith yn rhan o'r broses ymgynghori honedig.Meddai Trefnydd Gweithredol Cymdeithas yr Iaith yn Nyfed, Gwenno Teifi:"Mae'r gwirionedd i'w weld ym mrawddeg olaf adroddiad Saesneg y swyddogion i'r Bwrdd Gweithredol, 'a Capital Receipt from the sale of this school is included in the funding package for the MEP.' Felly mae'r Cyngor eisoes wedi cyfri am gau a gwerthu'r ysgol i ran gyllido eu hysgolion canolog newydd, a hynny cyn cychwyn ar broses ymgynghori honedig ynghylch dyfodol yr ysgol.""Mae hyn yn dangos fod tinged yr ysgol wedi'i phenderfynu ymlaen llaw o safbwynt y Cyngor ac mai ffars oedd yr ymgynghori honedig. Ni wnaeth gwrthwynebiad unedig rhieni, athrawon, llywodraethwyr a'r gymuned leol unrhyw wahaniaeth iddynt, na barn yr ysgol gyfagos, Bancffosfelen.""Cymerodd y Bwrdd Gweithredol llai na 30 eiliad yn eu cyfarfod fis Medi i ddiystyru'r dwsinau o gyfraniadau cadarnhaol at y broses ymgynghori. Fory, byddant yn treulio hyd yn oed yn llai o amser yn ystyried yr holl wrthwynebiadau i'r Rhybudd Statudol. Unwaith eto, byddant yn penderfynu nad yw dyfodol yr ysgol a'r gymuned leol yn haeddu trafodaeth yn y Cyngor llawn. Mae'r Bwrdd Gweithredol a'r Swyddogion Addysg yn credu bellach y cant weithredu fel y mynnant heb unrhyw atebolrwydd.""Daw Jane Davidson nawr wyneb yn wyneb a'r gwirionedd. Naill ai y bydd yn caniatáu penderfyniad ac agwedd haerllug y Cyngor a thanseilio unrhyw hygrededd i brosesau ymgynghori a hybu difaterwch ymhlith rhieni a llywodraethwyr. Neu, bydd yn caniatáu'r Apêl yn erbyn cau’r ysgol a mynnu fod y Cyngor yn dechrau trafod o ddifri gyda rhieni a llywodraethwyr ddyfodol ein hysgolion yn hytrach na'u trin nhw gyda dirmyg."