Mae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio'r hyn sy'n cael ei weld fel sylwadau sarhaus gan Brif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, Mark James mewn hysbyseb am swyddi newydd gyda'r Cyngor Sir.
Mewn darn ar gyfer y Western Mail ddydd Llun y 6ed o Orffennaf dywed Mark James mai "strong, decisive and inspirational leaders with drive, political awareness and ability" sydd eu hangen i fod yn Gyfarwyddwr yr Amgylchedd a Chyfarwyddwr y Gwasanaeth Corfforaethol ar y Cyngor Sir. Nid yw'n cyfeirio o gwbl at angen i allu cyfathrebu'n Gymraeg na Saesneg, ac mae'r fanyleb swydd yn gofyn safonau sylweddol is o allu yn Gymraeg na Saesneg.
Dywedodd trefnydd y Gymdeithas yn Nyfed, Bethan Williams:
“Drwy beidio hysbysebu am rywun sydd yn rhugl yn Gymraeg a Saesneg mae'n gwbl amlwg mai pobl o'r tu fas i'r sir mae Mark James yn dymuno penodi i ysbrydoli pobl leol, ar ôl dysgu rhywfaint o Gymraeg. Ydy e wedi meddwl mai'r sawl sydd fwyaf tebygol o ysbrydoli pobl Sir Gâr yw'r bobl hynny sydd wedi byw a gweithio yma. Mae ei sylwadau yn gwawdio Sir Gaerfyrddin, a hyn eto yn parhau â'r arfer o beidio disgwyl i uwch swyddogion allu siarad yn Gymraeg. Mae hyn yn sicr yn codi amheuon am ymrwymiad y Prif Weithredwr i strategaeth iaith y sir.”
Y stori yn y wasg:
Cymdeithas yr Iaith yn beirniadu hysbyseb Sir Gâr - Golwg360 08/06/15
Y Gymraeg yn hanfodol - ond ddim mor hanfodol â'r Saesneg - Carmarthen Herald
Danfonwyd y llythyr isod at y Cyngor Sir o ganlyniad i hysbysebu'r swyddi yn uniaith Saesneg:
Annwyl Emlyn a Mair,
Dyma gysylltu gyda chi fel Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg i holi am ddwy swydd cyfarwyddwyr sydd yn cael eu hysbysebu gan y Cyngor Sir a r hyn o bryd: Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol.
Roedd hysbyseb cryno dwyieithog yn y Western Mail ddydd Llun (6ed o Orffennaf); ynghyd â disgrifiad hirach, hanner tudalen, o'r ddwy swydd, yn uniaith Saesneg – oedd yn syndod yn ei hun. Doedd dim cyfeiriad o gwbl at y Gymraeg o ran y person fyddai'n cael ei benodi nac o ran natur ieithyddol y sir yn y naill na'r llall.
O edrych wedyn ar fanyldeb swyddi y ddwy swydd (sydd ond ar gael yn uniaith Saesneg
ar wefan y Cyngor) dim ond hyd at lefel 2 mae disgwyl i rywun allu siarad Cymraeg tra bod disgwyl bod gallu'r Saesneg hyd at lefel 6; a dymunol yw Cymraeg ysgrifenedig tra bod Saesneg ysgrifenedig yn hanfodol hyd at lefel 5.
Pam fod gallu Cymraeg yn sylweddol is ar gyfer y ddwy swydd?
Dyma'r trydydd tro i swydd cyfarwyddwr gael ei hysbysebu gan y Cyngor heb ystyriaeth deg i'r Gymraeg. Cafwyd addewid y byddai cynghorwyr priodol yn cymeradwyo pob manyleb swydd cyn iddyn nhw gael eu cyhoeddi. Ydy hyn wedi cael ei roi ar waith? Os yw, pam fod y Gymraeg yn cael ei ystyried yn eilradd i'r Saesneg?
Er efallai na fydd y swyddi hyn yn dod i gysylltiad uniongyrchol gyda'r cyhoedd, yn ôl Cynllun Gweithredu strategaeth iaith y Cyngor mae'r cyngor i fod yn symud i weithio drwy'r Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf felly bydd y Gymraeg yn hanfodol mewn amser.
Mae'r Strategaeth Iaith a ddaeth o argymhellion Gweithgor y Gymraeg yn dangos fod camau yn cael eu cymeryd, ond eto mae pethau fel hyn yn awgrymu nad yw pethau yn newid go iawn.
Rydym yn cael ar ddeall y bydd Panel Ymgynghorol y Gymraeg yn trafod iaith gweinyddol a safonau iaith yn y cyfarfod nesaf ymhen yr wythnos. Gobeithio bydd cyfle i dynnu sylw'r aelodau at ein pryderon.
Yn Gywir,
Sioned Elin