Negeseuon o Gefnogaeth i Mynyddcerrig ym Mhrotest Neuadd y Sir

Cadwn Ein Hysgolion.JPGY bore ma daeth 75 o gynrychiolwyr o 12 o ysgolion ynghyd a Merched y Wawr ac Undeb Ffermwyr Cymru i Neuadd y Sir, Caerfyrddin i roi negeseuon o gefnogaeth i frwydr Ysgol Mynyddcerrig dros ei dyfodol. Daeth pob cynrychiolydd a charreg o'u hardal nhw i adeiladu mynydd bach o gerrig o flaen Neuadd y Sir fel cyfraniad pellach at y broses ymgynghori ar ddyfodol yr ysgol.

Roedd Cadeirydd y Cyngor, Mr Roy Llywelyn, wedi dweud wrth y protestwyr ymlaen llaw fod hwn yn fater y dylai'r Cyngor llawn fod yn ei drafod; ond ar hyn o bryd mae'r Bwrdd gweithredol yn mynnu cymryd y penderfyniad eu hunain yn eu cyfarfod ar ddechrau Medi, ar ddiwedd y broses ymgyngorol sydd wedi ei ymestyn hyd at Awst 11eg.Ar ddiwedd y cyfarfod y bore ma, fe gytunodd y protestwyr ar y camau canlynol :1. I gynnal cyfarfod ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe ddydd Gwener Awst 11eg, sef diwrnod ola'r broses ymgynghorol ar ddyfodol Ysgol Mynyddcerrig2. I gynnal protest pan fydd y Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod ar ddechrau Medi yng Nghaerfyrddin i wneud eu penderfyniad terfynol ar ddyfodol yr ysgol.