Oedi dros wefan Gymraeg Torfaen - bygwth ymgyrchu

Mae ymgyrchwyr iaith wedi mynegi pryderon mawr am bolisi iaith Cyngor Torfaen wedi iddynt dorri addewid i gyhoeddi safle wê’r Cyngor yn Gymraeg erbyn dechrau’r flwyddyn hon.

Mewn adroddiad at y Cyngor yn ôl ym mis Rhagfyr y llynedd, dywedodd Prif Weithredwraig y Sir Alison Ward: “Mae'r Cyngor yn parhau i ddatblygu'i gwasanaeth Gymraeg i gymuned Torfaen. Er nad yw'n sefydliad dwyieithiog, mae gallu a cymhwysedd y sefydliad yn dal i dyfu a bydd ein gwasanaeth Cymraeg yn cynyddu'n sylweddol gydag argaeledd fersiwn newydd Cymraeg o wefan y Cyngor ar ddechrau 2013.”

Cymerodd dros flwyddyn o lythyru a chwyno cyn i Alison Ward, prif weithredwr Cyngor Torfaen addo safle we Cymraeg. Hanner blwyddyn wedi i’r Cyngor fwriadu lansio’r safle we, nid yw hi wedi ei chyhoeddi. Dywed Cymdeithas yr Iaith bod agwedd y Cyngor yn diystyrru eu polisi iaith eu hun.

Dywedodd Yvonne Balakrishnan, aelod Cymdeithas yr Iaith yn yr ardal; Siomedig dros ben yw’r newyddion bod Cyngor Torfaen unwaith eto yn methu cadw at eu haddewid i gyflwyno safle we yn yr iaith Gymraeg. Er bod nifer ohonym siaradwyr Cymraeg wedi bod yn ceisio cael gwybodaeth am weithgareddau a gwasanaethau lleol yn yr ardal ers tro erbyn hyn, rydym yn dal i ddisgwyl. Teimlaf bod y sefyllfa yn un anobeithiol yn enwedig am fod y Prif Weithredwr yn datgan cefnogaeth i’w cynllun iaith ond eto’n ymddengys i fod yn llusgo’u traed.”

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi anfon llythyr at Gyngor Torfaen yn cynnwys llu o gwynion am y diffyg Cymraeg o fewn y Cyngor, gan gynnwys problemau gyda’r wefan. Mae’r Gymdeithas wedi bod mewn cyfarfodydd gyda swyddogion y Cyngor i drafod y sefyllfa, ond nid yw’r Cyngor wedi gweithredu ar y pwyntiau a godwyd. Dywed y llythyr:

“... mae’n glir mewn nifer o feysydd nad yw'r Cyngor yn cydymffurfio â'i gynllun iaith. Mae hyn yn fater difrifol iawn nid yn unig am ei fod yn mynd yn groes i gyfraith gwlad, ond hefyd am ei fod yn tramgwyddo hawliau sylfaenol pobl i ddefnyddio'r Gymraeg.”

“Mae'r methiannau [a restrir yn y llythyr] yn groes i ofynion sylfaenol eich cynllun iaith, ac yn groes i egwyddorion sylfaenol Deddf Iaith 1993. Fel y gwyddoch, byddwn ni’n parhau i ystyried fel rhanbarth yr opsiynau eraill sydd gyda ni er mwyn sicrhau bod y Cyngor nid yn unig yn cadw at eu dyletswyddau statudol sylfaenol, ond yn gwneud cyfraniad sylweddol at gryfhau'r Gymraeg yn yr ardal.”

Dywedodd Branwen Brian, Ysgrifennydd Rhanbarth Cymdeithas yr Iaith, Mae’r diffyg ymateb i’n llythyron a’r cyfarfodydd rydym wedi eu cael gyda’r Cyngor yn dangos nad yw’r Cyngor yn cymryd y mater o ddifrif. Mae’r Cyngor yn dal i ymestyn y dyddiad maent yn bwriadu cyhoeddi’r safle we, a nawr mae dros hanner blwyddyn ers y dyddiad gwreiddiol i’r lansiad. Os na fydd y Cyngor yn gwireddu eu haddewid yna mi fydd rhaid i ni gymryd camau pellach i sicrhau bod y wefan yma yn cael ei lansio”.