Pantycelyn - ymateb i benderfyniad y brifysgol

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i’r datblygiadau diweddaraf ynghylch sefyllfa Neuadd Pantycelyn. 

Meddai Gwilym Tudur, cadeirydd Cell Pantycelyn y Gymdeithas: “Does dim amheuaeth bod yr ymgyrch, a gwaith diflino UMCA, wedi bod yn ysbrydoliaeth i bobl ledled Cymru a thu hwnt. Mae'r neuadd hon yn hynod o bwysig, nid yn unig i'r myfyrwyr, ond i gyflwr y Gymraeg yn genedlaethol. Mae'n amlwg bod y fodel yn gweithio i gynhyrchu siaradwyr Cymraeg hyderus sydd gwir ei angen arnon ni fel cenedlRydym yn falch o glywed am y sicrwydd o gyllid ac amserlen ar gyfer ailagor y neuadd a ddaeth yn dilyn yr ymgyrchu arbennig. Bydd angen i bawb gadw llygaid barcud ar y Brifysgol er mwyn sicrhau eu bod yn cadw at ei haddewidion, nid yn unig o barch i’n hetifeddiaeth gyfoethog, ond er lles y Gymraeg a’r cenedlaethau o fyfyrwyr sydd i ddod. ”