Starbucks - “Parchwch y Gymraeg neu ewch o 'ma”

Mae aelodau o Gell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith wedi casglu wrth gangen Starbucks yn Aberystwyth heddiw (dydd Gwener 29/04) gan alw ar y cwmni i barchu'r Gymraeg.
Roedd honiad i aelod o staff yn Starbucks ddweud “Speak English or get out” wrth gwsmer yn ddiweddar. Mae'r cwmni bellach yn gwadu iddo ddigwydd ond mae amheuon gan Gymdeithas yr Iaith o hyd.

Dywedodd Manon Elin, cadeirydd grŵp hawliau iaith y Gymdeithas sydd yn aelod o Gell Pantycelyn:

"Mae'n ein taro yn rhyfedd y byddai rhywun, sydd â phroffil uchel yn gyhoeddus, yn trydar am achos o'r fath heb fod rywfaint o wirionedd iddo. Ond maen dal yn wir y dylai'r cwmni, fel pob cwmni arall, sicrhau bod eu holl staff yn ymwybodol o bwysigrwydd cynnig gwasanaeth Cymraeg, a'r statws swyddogol sydd gan yr iaith. Mae cyfrifoldeb ar y staff i ddysgu’r Gymraeg i weini cwsmeriaid, nid disgwyl i’r cwsmeriaid droi at y Saesneg.

Gan fod awgrym bod aelod o staff wedi ymyrryd â rhyddid unigolyn i siarad Cymraeg, sy’n anghyfreithlon, rydyn ni wedi gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg ymchwilio."

Ychwanegodd Elfed Jones, Cadeirydd Cell Pantycelyn (angen checo gyda fe):

“Mae llythyr wedi mynd gan y Gymdeithas yn genedlaethol ynglŷn â'r sefyllfa ond roedden ni'n teimlo fod angen gwneud rhywbeth yn lleol hefyd.

Rydyn ni'n annog pawb i fynd i gaffis lleol. Ond o dderbyn na fydd pawb am wneud hynny mae angen anfon pob aelod o staff Starbucks ar hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith, a chynnig gwersi Cymraeg iddynt."