Pasio Cynllun Datblygu Lleol: 'bydd protestio fel canlyniad'

Yn dilyn penderfyniad cynghorwyr Ynys Môn i gymeradwyo cynllun datblygu lleol heddiw, mae mudiad iaith wedi rhybuddio bydd 'protestio yn erbyn y tai diangen hyn fesul datblygiad'.   

Bydd y Cynghorydd Elin Walker Jones, Osian Owen a Ieu Wyn o'r mudiad Cylch yr Iaith yn annerch gwrthdystiad ar ddydd Gwener yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn yn erbyn datblygiad arfaethedig o 366 o dai ym Mhen-y-ffridd ym Mangor.  

Wrth ymateb i'r newyddion, meddai Menna Machreth ar ran Cymdeithas yr Iaith:  

"Mae'r canlyniad heddiw yn siomedig gan y bu cyfle gan gynghorwyr i anfon neges glir i'r Llywodraeth ym Mae Caerdydd eu bod am gael cynllun sy'n adlewyrchu gwir anghenion lleol. Bydd rhaid i ni wrthwynebu a phrotestio yn erbyn y tai diangen hyn fesul datblygiad nawr.  

"Bydd y protestio'n dechrau yn yr Eisteddfod pan fyddwn ni'n tynnu sylw at yr angen i wrthod y 366 o dai ym Mhen-y-Ffridd ym Mangor.  Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, byddai'r cynllun hwn yn cryfhau'r achos yn erbyn y datblygiad yna. Felly, dyna fydd y prawf cyntaf iddo fe a'i gynllun."    

Wrth sôn am fethiannau'r system gynllunio'n gyffredinol, ychwanegodd Menna Machreth:   

"Yn sicr, dylai'r broses hon ein hatgoffa bod angen gweddnewid y system eiddo a chynllunio fel ei bod yn llesol i'r iaith, a hynny ar draws Cymru gyfan. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bob rhan o'r wlad, ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod y Llywodraeth, yn eu polisïau, yn sicrhau bod y system yn hybu'r iaith ym mhob un rhan o'r wlad. Allwn ni ddim parhau â system sy'n gadael prisiau tai ymhell tu hwnt i allu pobl leol i'w fforddio, ac wedyn, ar ben hynny, yn gorfodi cynghorau sir i adeiladu fwyfwy o'r tai hynny."