Patten: ymgyrchwyr yn lobio dros S4C

lobi-patten1.jpgMae ymgyrchwyr ac undebau wedi cynnal lobi tu allan i gyfarfod rhwng Cadeirydd newydd y BBC Chris Patten ac Aelodau Cynulliad ym Mae Caerdydd dros ddyfodol darlledu yng Nghymru heddiw (17:30, Mehefin 22).Yn yr hydref y llynedd, fe gytunodd y BBC i gymryd drosodd ariannu S4C fel rhan o ddel sydd yn golygu cwtogi ar gyllideb y sianel o dros bedwar deg y cant mewn termau real. Fe dorrir grant y Llywodraeth i'r sianel o naw deg pedwar y cant dros y 4 mlynedd nesaf.Ddoe, fe gadarnhaodd y BBC na fydd toriadau mewn gwasanaethau newyddion yn swydd Rhydychen, toriadau oedd wedi cael eu gwrthwynebu gan y Prif Weinidog David Cameron un o AS au'r ardal. Heddiw, cadarnhaodd llywodraeth y byddai buddsoddiad ychwanegol yng Ngwasanaeth y Byd y BBC, yn dilyn gwaith lobio gan Chris Patten.Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Dylai'r BBC tynnu allan o'u bargen munud-olaf sydd yn rhoi dyfodol unig sianel deledu Gymraeg y byd odan fygythiad. Mae BBC yn gwrthod ateb cwestiynau sylfaenol ar S4C. Maen nhw'n gwrthod gwarantu bydd unrhyw arian ar gael i'r sianel wedi 2015. A tra bod Chris Patten wedi llwyddo i lobio'r Llywodraeth i gael mwy o arian dros Wasanaeth y Byd y BBC. Dyn ni ddim wedi clywed e yn gofyn i'r llywodraeth newid ei meddwl dros S4C."

"Gyda'r toriadau i BBC Cymru ar ben hyn, rydym yn wynebu cyfnod du iawn i ddarlledu. Fe fyddwn ni'n cydweithio gyda'r undebau a'r degau o filoedd o bobl ar draws y wlad sydd yn gwrthwynebu'r cynlluniau annoeth i S4C a BBC Cymru.""Mae Cymdeithas yrIaith yn galw am weledigaeth newydd ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru gangynnwys BBC Cymru. Rydym yn galw am S4C annibynnol ac arian digonol - mae angen sicrwydd o gyllidmewn deddf gwlad er mwyn osgoi tensiynau rhwng y Gymraeg a'r Saesneg."Mae protestwyr Cymdeithas yr Iaith yn dal i wersylla tu allan i stiwdios y BBC ym Mangor.Protest tu allan i gyfarfod y BBC ym Mae Caerdydd - Golwg360 - 22/06/2011