Peidiwch amddifadu plant Llangennech o'r Gymraeg

Yn dilyn ymgynghoriad bydd Cyngor Sir Gâr yn trafod newid categori iaith ysgol Llangennech ger Llanelli mewn pwyllgor craffu addysg ar y 23ain o Fai.
Mae'r ymgynghoriad yn cynnig bod newid yr ysgol o fod yn ddwy ffrwd i fod yn ysgol Gymraeg.

Dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith
“Ar hyn o bryd mae ffrwd Gymraeg a ffrwd Saesneg ac fel mae'n sefyll dim ond plant yn y ffrwd Gymraeg sy'n dod o'r ysgol yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl. Saesneg, yn naturiol, yw prif iaith plant y ffrwd Saesneg.
Byddai parhau'r ddwy ffrwd yn rhoi dewis i rieni pa iaith fydd addysg eu plant, ond bydd dewisiadau'r plant hynny wedi ei gyfyngu yn y dyfodol. Byddai'n eu hamddifadu o gyfleoedd gwaith a'r gallu i gyfathrebu'n hyderus yn Gymraeg.
“Fydd plant byth yn colli gafael ar eu Saesneg – mae'n byd ni'n ffafrio'r Saesneg, ond mae perygl y gallai plant beidio cael gafael gadarn ar y Gymraeg.”