Peidiwch â siarad am Bolisiau Iaith – Gweithredwch nhw!

Vernon Morgan Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cysylltu gyda Mark James, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin, wedi derbyn cwynion gan brifathrawon fod Vernon Morgan, y Cyfarwyddwr Addysg newydd, wedi trin y Gymraeg gyda dirmyg mewn cynhadledd a gynhaliwyd ddoe yng Ngholeg y Drindod ar gyfer prifathrawon i esbonio’r strategaeth a allai arwain at gau degau o ysgolion pentrefol Cymraeg.

Wedi dwy frawddeg agoriadol yn Gymraeg, traddododd Mr Morgan ei holl araith yn Saesneg – er bod dros 90% o’r cynhadleddwyr yn Gymraeg, a bod offer cyfieithu ac er gwaethaf yr honiad y byddai’r strategaeth newydd yn diogelu addysg Gymraeg!Mewn neges gwta at Mark James, dywed y Gymdeithas:
Annwyl Mark James,Yn dilyn y Gynhadledd a gynhaliwyd ddoe yng Ngholeg y Drindod rydym ni, Cymdeithas yr Iaith, wedi derbyn nifer o gwynion gan brifathrawon a oedd yn bresennol yn y gynhadledd, fod Vernon Morgan wedi trin y Gymraeg gyda dirmyg llwyr. Wedi dwy frawddeg agoriadol yn Gymraeg, clywsom fod Mr Morgan wedi traddodi ei holl araith yn Saesneg.Credwn fod angen stopio siarad am bolisiau iaith, ac yn hytrach eu gweithredu nhw. Credwn fod y Cynllun Iaith presennol bron â bod yn ddiwerth gan eich bod yn trefnu ffrynt ddwyieithog ar gyfer y cyhoedd er eich bod yn cyflawni'ch holl waith yn Saesneg. Rydych yn siarad am bolisi cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ac annog swyddogion i'w siarad, ond y realiti yw fod y swyddogion yn "gwneud defnydd" o'r Gymraeg yn eu hagoriad ac wedyn yn siarad yn Saesneg wrth drin gwaith difrifol y Cyngor.Yn y Cynllun Iaith newydd y byddwch yn gweithio arno, mae angen i chwi stopio siarad am bolisiau iaith ac yn hytrach weithredu a gweinyddu'n syml yn Gymraeg - gyda chyfieithu ar gyfer y rhai nad sy'n deall oherwydd methiant y drefn addysg. Ni bydd byw y Gymraeg heibio'r flwyddyn 2020 oni chaiff ei defnyddio'n hyderus ym mhob maes o fywyd, ac y mae cyfrifoldeb gan y Cyngor i roi arweiniad a chyflawni ei waith yn Gymraeg.Yn Gywir IawnFfred FfransisGrwp Addysg Cymdeithas yr Iaith

Sylwodd Ffred Ffransis, llefarydd y Gymdeithas ar addysg:"Yn eironig iawn, yr oedd hwn i fod yn ymdrech propaganda ar ran y Cyngor i werthu eu strategaeth 'moderneiddio' amhoblogaidd i brifathrawon. Yn lle hynny, llwyddodd y Cyfarwyddwr i elyniaethu’n syth y mwyafrif o’r prifathrawon sy’n ceisio cynnal addysg Gymraeg yn eu hysgolion ac yn wynebu agwedd dilornus at yr iaith gan Mr Morgan.""Mae hwn yn arwydd o broblem ehangach gan swyddogion y Cyngor Sir. Yn ein cyfarfod gyda Vernon Morgan, fe’i cawsom i fod yn wr hynaws a chyfeillgar, ond dyw e ddim yn deall cymunedau Cymraeg Sir Gâr. Mae’n siarad a gweithio fel petai o hyd ym Merthyr, gan siarad am bolisi iaith tra’n gwneud ei waith yn Saesneg. Dyma ganlyniad strategaeth y Cyngor o fewnforio prif swyddogion. Daeth rhagflaenydd Mr Morgan o Fro Morgannwg, daeth y Prif Swyddog Gweithredol o swydd yng Ngogledd Lloegr a’i ragflaenydd o Dde Lloegr.""Yr awgrym clir yw fod pobl Sir Gâr yn rhy dwp i gael y prif swyddi a bod yn rhaid 'cael y goreuon' o du allan, ac nad ydynt yn credu fod staff presnnol y Cyngor yn ddigon da i’w dyrchafu. O ganlyniad, nid ydynt yn deall ein cymunedau. Dyma gyngor sydd tan reolaeth lwyr y swyddogion. Disgwyliwn i’r swyddogion reoli cynghorwyr Annibynnol diniwed, ond mae’n fwy o syndod fod y mwyafrif o gynghorwyr Llafur mor ddi-asgwrn-cefn."