Mae mudiad iaith wedi ymateb i benderfyniad cabinet Gwynedd heddiw ar dynged canolfannau iaith y sir.
Dywedodd Gwion Emyr, swyddog maes Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd:
"Mae’r penderfyniad heddiw’n dangos bod ymgyrchu’n gweithio - mae’n amlwg bod Cyngor Gwynedd yn teimlo’r pwysau. Fodd bynnag, mae’r penderfyniad hefyd yn golygu cryn ansicrwydd ac mi fydd angen cadw llygaid barcud ar y sefyllfa. Wnawn ni ddim derbyn unrhyw israddio ar y Canolfannau Iaith. Ehangu ar y ddarpariaeth addysg i hwyrddyfodiad yng Ngwynedd a gweddill y wlad ddylai fod yn digwydd – nid torri – er mwyn sicrhau'r miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."
“Does dim cefnogaeth ar lawr gwlad i israddio’r canolfannau na thorri ar y gwasanaeth hollbwysig maen nhw’n eu cynnig. Maen nhw’n cael effaith bositif ar yr iaith, a hynny yn yr hirdymor. Mae enghreifftiau lu o oedolion sydd bellach yn siaradwyr Cymraeg hyderus, sy'n byw drwy'r Gymraeg yn eu cymunedau, ac sy'n trosglwyddo'r iaith i'w plant oherwydd eu bod wedi bod yn un o'r canolfannau hyn. Dyma un o'r llwyddiannau mwyaf sydd wedi bod o ran cynnwys hwyrddyfodiaid - maen nhw’n golygu bod modd cadw ysgolion yn Gymraeg a rhoi chwarae teg a mynediad llawn at fywyd y cymunedau i'r bobl ifanc sy'n symud i'r ardal."