Penderfyniad i gau ysgolion - rhaid cyfeirio y penderfyniad i'r Cyngor llawn.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw i benderfyniad Cyngor Gwynedd i gau Ysgolion Carmel a Fron i gael ei gyfeirio at gyfarfod o'r Cyngor llaw.

 

Dywedodd Osian Jones – swyddog rhanbarth y gogledd Cymdeithas yr Iaith.

 

“Dyma'r penderfyniad cyntaf y Cyngor i gau ysgolion pentrefol Cymraeg yn dilyn cyhoeddi ffigyrau'r Cyfrifiad, sydd wedi dangos bod bygythiad i ddyfodol y Gymraeg”

 

“Mae Cymdeithas yr Iaith yn disgwyl felly fod y Cyngor yn magu agwedd cadarnhaol newydd i ddatblygu ysgolion yn adnoddau pwysig i adfywio ein cymunedau Cymraeg”