Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi yr Athro Elizabeth Treasure yn Is-Ganghellor. Dywedodd llefarydd ar ran Cell Pantycelyn y Gymdeithas:
“Mae'n drueni nad yw'r Athro Elizabeth Treasure yn gallu siarad Cymraeg. Mewn Prifysgol fel Aberystwyth bydd yn greiddiol i'w gwaith bob dydd yn y Brifysgol a'r gymuned. Er hynny rydyn ni'n falch iddi ymrwymo i ddysgu'r Gymraeg. Gan na fydd yr Athro Treasure yn dechrau ar y swydd nes mis Ebrill mae cyfle ganddi i ddechrau ar y broses o ddysgu'r Gymraeg er mwyn cyrraedd y safon sydd yn y swydd ddisgrifiad erbyn hynny, a gosod sail i adeiladu arno. Y peth pwysicaf yw y bydd hi'n gallu defnyddio'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol yn ei gwaith ac yn y gymuned yn naturiol.
“Edrychwn ymlaen hefyd at glywed ei chynlluniau ar gyfer cydweithio gyda'r gymuned Gymraeg, oddi fewn i’r Brifysgol ac yn Aberystwyth. Mae'r Gymraeg a'r gymuned a diwylliant Cymraeg yn rhan annatod o'r Brifysgol a Cheredigion, ac mae angen ymrwymiad clir i gryfhau sefyllfa’r Gymraeg yn y Brifysgol, ac i weithredu i ail-agor Neuadd Pantycelyn erbyn 2019”