Penodiad newydd Cabinet Sir Gar - croeso gofalus

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi rhoi croeso gofalus i’r newyddion bod y Cynghorydd Mair Stephens wedi ei phenodi fel aelod cabinet newydd yn Sir Gaerfyrddin gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg.

Dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin:“Rwy’n falch o glywed cyhoeddiad Arweinydd y Cyngor Sir heddiw. Ac yn gobeithio y bydd y penodiad yn arwain at newidiadau polisi a fydd yn cryfhau’r Gymraeg yn lleol.  Rydyn ni’n edrych ymlaen at drafod y materion hyn ymhellach gyda Kevin Madge yn ein cyfarfod gydag e o fewn tair wythnos. Er bod cynifer o bobl eisiau byw yn Gymraeg, mae’r iaith yn wynebu argyfwng yn y sir. Nid oes diben eistedd yn ôl: gydag ewyllys gwleidyddol, gallai pethau newid er gwell. Mae’n amser am ddewrder a syniadau newydd. Os derbynia’r cyngor bod argyfwng yn wynebu’r Gymraeg sydd angen ei ddatrys ar frys, bydd gobaith.”