Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg

ceredigion.jpgBydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedu cynghorwyr ar eu ffordd i mewn i gyfarfod allweddol o Gyngor Ceredigion am 9am fore Mawrth (30/6) sy'n ailystyried y penderfyniad i gyhoeddi Rhybudd Statudol i gau Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd.Mewn neges at y cynghorwyr, dywed y Gymdeithas fod y broses o benderfynu cau'r ysgol bentrefol Gymraeg ym Mhonterwyd wedi bod mor frysiog ac mor wallus fel ei bod yn sicr y byddai'r Gweinidog Addysg yn caniatau apel yn erbyn cau'r ysgol. Dadl y Gymdeithas yw ei bod yn well felly i'r Cyngor ail-fynd ati i geisio cytundeb gyda rhieni a'r gymuned leol ynghylch y ffordd orau ymlaen yn hytrach na bwrw mlaen gyda'r cynllun dinistriol a fydd yn sicr o fethu beth bynnag.

CEFNDIRSefydlwyd panel arbennig o swyddogion a chynghorwyr i adolygu dyfodol naw ysgol bentrefol mewn cyfarfodydd arbennig ar Ebrill 1af a'r 2ail. Galwyd llywodraethwyr, penaethiaid a chynghorwyr lleol yn ol wedyn i gyfres o gyfarfodydd ar Ebrill 24ain i glywed y penderfyniad ar y 9 ysgol. Cynhaliwyd cyfarfodydd ymgynghori statudol gyda rhieni a llywodraethwyr yn y 9 ysgol yn ystod Mai, a chadarnhawyd yr holl benderfyniadau gwreiddiol (sef cau 5 ysgol, gohirio am dymor benderfyniad ar ddwy arall ac annog dwy i ffedereiddio gydag ysgolion eraill) mewn cyfarfod o'r Cabinet ar yr ail o Fehefin. O fewn wythnos fe gyhoeddwyd y Rhybuddion Statudol i gau'r ysgolion. Mae Pwyllgor Craffu Addysg y Cyngor wedi galw i mewn y penderfyniad i gau Ysgol Ponterwyd, a rhaid i'r Cyngor cyfan yn awr drafod y mater yfory (9am Mawrth 30/6 yn Neuadd y Cyngor, Aberaeron)ANHYGOELMewn ymateb, dywed llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis ei bod yn anhygoel fod y Cyngor wedi gwthio trwodd cynlluniau i gau 5 ysgol, a bygwth rhai eraill o fewn mater o wythnosau. Esboniodd:"Mae'r Cyngor yn honni ei fod wedi adolygu dyfodol 9 ysgol mewn dau ddiwrnod ar Ebrill 1af a'r ail. O fewn cyfnod o dair wythnos (gan gynnwys gwyliau'r Pasg), roedd y Cyngor wedi ystyried yr holl dystiolaeth o'r cyfarfodydd adolygu ac wedi dod i benderfyniad ar dynged y naw ysgol. O fewn mis arall (Mai) mae'r Cyngor yn honni ei fod wedi cynnal ymarferion ymgynghori ystyrlon yn gyfamserol mewn 9 gwahanol gymuned - sef yr amserlen leiaf a osodir fel arfer ar gyfer ymgynghori mewn un ysgol. Ni chynhyrchodd y Cyngor adroddiad neilltuol ar gyfer pob ysgol gan ddadansoddi'r holl bosibiliadau, ni wnaeth y Cyngor unrhyw asesiad o effaith cau'r ysgolion ar yr iaith nac ar y cymunedau lleol - er bod canllawiau'r Cynulliad yn mynnu fod Cyngor yn gwneud yr holl bethau hyn cyn cynnig cau ysgol. Yn lle'r holl bapurau manwl hyn, roedd gan aelodau'r Cabinet un ddogfen gyffredinol yn unig o'u blaen gyda 3 thudalen yn unig ar gyfartaledd am bob ysgol. Ar sail y ddogfen dila hon, fe ofynwyd iddynt gau'r ysgolion a oedd wedi gwasanaethu eu cymunedau ers cenedlaethau."Ychwanegodd Mr Ffransis:"Does dim unrhyw bosibiliad yn y byd y byddai'r Gweinidog Addysg yn ystyried fod y Cyngor wedi rhoi sylw dyladwy i bob ysgol unigol ar sail y dystiolaeth hon. Nid yw cau torfol o'r fath yn gyfreithlon gan fod yn rhaid ystyried pob ysgol unigol yn ol ei hawl ei hun. Bydd y Gweinidog yn sicr o ganiatau apel gan rieni Ponterwyd - ac unrhyw rai o'r cymunedau eraill sy'n gwrthwynebu'r Rhybuddion Cau. Byddai'n well felly i'r Cyngor gyfarwyddo'r swyddogion i ddychwelyd at y cymunedau i geisio cytundeb am y ffyrdd gorau ymlaen gan wneud asesiad llawn o'r holl ystyriaethau. Mae cyfle yfory i wneud cyfiawnder a'r ysgol a'r gymuned ym Mhonterwyd."CAMARWAINBydd y Gymdeithas hefyd yn rhybuddio cynghorwyr yn y daflen biced fod eu penderfyniad i gau'r Ysgol yn anghyfreithlon oherwydd diffyg difrifol arall yn y broses ymgynghori. Bu cofnodion y Cyfarfod Cyhoeddus ym Mhonterwyd ar Fai 22ain yn y ddogfen a fu gerbron aelodau'r Cabinethttp://www.ceredigion.gov.uk/utilities/action/act_rkyvdownload.cfmYn ol y cofnodion yr oedd y Cyfarwyddwr wedi dweud "Os na bydd gwrthwynebiad - penderfyniad gan y Cyngor Sir. Gwrthwynebiad - penderfyniad y Gweinidog Addysg" Mewn ymateb, dywedir fod aelod o'r gynulleidfa "wedi awgrymu peidio a gwrthwynebu er mwyn cadw'r penderfyniad i'r Cyngor Sir". Sylwodd Ffred Ffransis:"Rwy'n sicr fod y camarwain hwn - sydd wedi'i gofnodi - yn llithriad anfwriadol, ond ei effaith oedd sicrhau fod y rhieni a'r llywodraethwyr wedi credu (yn anghywir) ei fod yn well iddynt beidio ag anfon i mewn unrhyw wrthwynebiadau manwl, llythyrau na deisebion at y Cyngor yn rhan o'r broses ymgynghori statudol. O ganlyniad, nid oedd gan y swyddogion unrhyw bapurau pellach i orfod eu hystyried, ac fe benderfynon nhw o fewn 4 niwrnod gwaith i fwrw mlaen gyda'r bwriad i gau'r ysgol. O ganlyniad i'r camarwain hyn, nid oedd gan aelodau'r Cabinet unrhyw ddogfennau manwl o wrthwynebiad na llythyrau o'u blaen wrth ddod i benderfyniad. Nid oedd unrhyw ddogfen neilltuol gan y swyddogion am Bonterwyd, dim ond nifer o bwyntiau bwled yn crynhoi'r fath o wrthwynebiadau lleol i'r cynllun. Nid oedd y Cabinet - ar ran y Cyngor - mewn unrhyw fath o sefyllfa i ddod i benderfyniad ar fater mor ddifrifol ar sail tystiolaeth mor denau, ac roedd y camarwain wedi amddifadu'r gymuned leol o'r hawl i gyflwyno achos manwl o wrthwynebiad a chynlluniau amgen. O ganlyniad, mae'n rhaid i'r Cyngor newid y penderfyniad yfory rhag dwyn anfri ar yr holl broses."Bu camarwain oherwydd nad yw cynnig gwrthwynebiadau ysgrifenedig - yn rhan o'r broses ymgynghori statudol - i fwriad y Cyngor yn amddifadu'r Cyngor o'r hawl i gymryd penderfyniad ei hunan. I'r gwrthwyneb, mae Cyngor i fod i geisio pob math o ymatebion (llafar ac ysgrifenedig) mewn proses ymgynghori a'u dadansoddi a'u hystyried yn fanwl cyn cymryd penderfyniad difrifol o gyhoeddi Rhybudd Statudol i Gau ysgol. WEDI cyhoeddi Rhybudd Statudol ( h.y. WEDI penderfyniad terfynol y Cyngor) WEDYN fe aiff y mater ar apel at y Gweinidog Addysg os bydd unrhyw wrthwynebiad sgrifenedig. Trwy awgrymu na ddylid cynnig gwrthwynebiadau sgrifenedig CYN y penderfyniad i gyhoeddi Rhybudd Statudol, roedd y Cyngor yn amddifadu'r rhieni a'r gymuned o'r gallu i gynnig gwrthwynebiad llawn a manwl i'r bwriad. Mae hyn, ynddo'i hun, yn ddigon i annilysu'r holl broses.