Ar ôl derbyn llythyr gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru mae rhai o'n haelodau a'n cefnogwyr lleol wedi mynd ati i 'blannu' a galw bod gwreiddio'r Gymraeg yn y sefydliad.
Bythefnos yn ôl cododd ffrae wedi i arwyddion uniaith Saesneg gael eu codi i hyrwyddo digwyddiadau yn yr Ardd ac iddi ddod yn amlwg fod yr Ardd yn torri ei gynllun iaith drwy ohebu yn uniaith Saesneg ac nad yw rhannau o'i wefan yn ddwyieithog.
Dywedodd Amy Jones, Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn yr ardal:
“Fe wnaethon ni ddweud mewn llythyr at yr Ardd yn ddiweddar ein bod ni'n poeni am ei agwedd tuag at y Gymraeg, eu bod yn ddiystyriol ac yn ymylu ar fod yn sarhaus. Dydy'r ymateb i'n llythyr yn gwneud dim i'n argyhoeddi fod unrhyw beth am newid. Felly drwy blannu blodau gyda'n galwadau ni – fod yr Ardd yn cadw at ei gynllun iaith a dweud y byddan nhw'n symud i weithio'n fewnol drwy'r Gymraeg; rydyn ni'n gwneud rhywbeth cadarnhaol i annog yr Ardd a thynnu eu sylw at yr angen i'r Gymraeg gael ei gwreiddio ynddi.
“Nid rhywbeth i'w wneud os oes amser yw codi arwyddion Cymraeg neu ddanfon llythyr dwyieithog - rhywbeth ddylai digwydd yn naturiol. Mae tipyn o gryfder teimlad wedi bod am y sefyllfa, ac er bod Rosetta Plummer, Cyfarwyddwr yr Ardd, yn ymddiheuro am achosi hynny ac yn cydnabod nad ydyn nhw wedi meddwl am y Gymraeg does dim byd pendant sydd yn awgrymu bydd pethau'n newid. Mae'n glir fod yr Ardd yn ystyried y Gymraeg fel rhywbeth ar wahân, sydd yn ymateb cyffredin gan nifer o sefydliadau, ac yn esgus rhwydd iawn. Gan fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud ymrwymiad i weithio tuag at fod yn sefydliad sydd yn gweithio'n Gymraeg does dim rheswm pam na allai'r Ardd wneud yr un peth yn raddol. "
Mae Cymdeithas yr Iaith eisoes wedi galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru i atal nawdd cyhoeddus i'r Ardd nes bod yr ardd yn ymrwymo i gadw at ei gynllun iaith. Maent yn aros ymateb y Llywodraeth ac roedd Cyngor Sir Caerfyrddin eisoes yn trafod eu cyfraniad ariannol i'r Ardd.
Ychwanegodd Amy Jones:
“Petai'r ddau gorff yn dweud eu bod yn difrif ystyried dal cyllid i'r Ardd nôl byddai'n dangos yn glir eu bod nhw'n cymeryd eu cyfrifoldeb tuag at y Gymraeg fel noddwyr o ddifrif. Gobeithio na ddaw hi i hynny wrth gwrs a bydd y Gymraeg, fel ein bylbiau ni, yn blodeuo.”
Y stori yn y wasg:
Galw am Wreiddio'r Gymraeg yn yr Ardd Fotaneg - Golwg360 26/04/15
Welsh language prtoest over English only signs in National Botanic Garden - South Wales Evening Post 26/04/15
Mwy am yr hanes yma a'r lllythyron rhwng Cymdeithas yr Iaith a'r Ardd Fotaeng yma