Pleidlais ar ysgol Gwynedd: gofyn am fodel amgen

ysgol-parc1234.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi erfyn ar gynghorwyr Gwynedd i wrthod cynlluniau i gau Ysgol y Parc cyn cyfarfod o Fwrdd y Cyngor heddiw. Mewn llythyr at y cyngor, mae'r Gymdeithas wedi gofyn i swyddogion a'r aelod sydd â chyfrifoldeb dros addysg newid y cynlluniau yn dilyn gwrthwynebiad cryf yn yr ymatebion i ymgynghoriad y cyngor.Yn hytrach na chau'r ysgol, mae'r mudiad iaith wedi argymell ffederaleiddio'r ysgolion gwledig lleol. Yn siarad cyn y cyfarfod, fe ddywedodd Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Nid oes unrhyw reswm dilys dros beryglu un o'n cymunedau gwledig Cymraeg cryfaf. Nid oes unrhyw gefnogaeth ym Mhenllyn i'r cynnig i gau Ysgol Y Parc, ac felly rydym yn gofyn i'r cyngor roi sicrwydd yn eu cyfarfod am ddyfodol yr ysgol gan alw am drafodaethau cadarnhaol i sicrhau trefniant cydweithio rhwng y 4 ysgol wledig a'r ysgol gydol oes newydd yn Y Bala fel bod undod yn y fro.""Hanfod y broblem yw na fu ystyriaeth i ymatebion yr ymgynghoriad ar ddyfodol Ysgol y Parc gan fod y swyddogion o hyd am lynu at yr un polisi negyddol o gau'r ysgol - er na chafodd hyn ddim cefnogaeth o gwbl yn yr ymatebion. Cam peryglus iawn yw i'r cyngor geisio gorfodi ateb nad sydd ag unrhyw gefnogaeth iddo'n lleol."

"Y ffeithiau plaen ydy ni fu unrhyw un o'r degau o ymatebion yn cefnogi'r polisi hwn ac mae'r tri aelod etholedig o Benllyn yn gwrthwynebu'r polisi. Bu cyfarfodydd o gannoedd o bobl ym Mhenllyn i gefnogi Ysgol Y Parc.""Mae cymuned Y Parc yn 91% o ran siaradwyr Cymraeg ac mae cyfran dda o ieuenctid y gymuned yn ymgartrefu'n lleol oherwydd yr ymdeimlad cryf o berthyn. Does neb erioed wedi honni fod angen cau'r ysgol am resymau addysgol. Gellir ehangu ystod profiadau addysgol y plant yn well trwy ein cynllun o Ffederasiwn Penllyn."Manylion yr ymgynghoriad (Gwefan Cyngor Gwynedd)Councillors support closure of more schools - Cambrian News - 17/03/2011