Meddai Sioned Elin o Gymdeithas yr Iaith:
“Mae'n bryder gennym fod Cyngor Sir Gaerfyrddin yn caniatáu yr ail datblygiad yma. O siarad gyda phwyllgor lleol sydd yn gwrthwynebu'r datblygiad mae'n amlwg nad oes ystyriaeth wedi ei roi i'r Gymraeg nac i'r gymuned. Rhwng bod prinder swyddi a bod yr ysgol uwchradd yn cael ei chau mae'r ffaith taw dim ond 20% o'r tai sy'n fforddiadwy yn awgrymu'n gryf nad ar gyfer pobl leol mae'r tai yma. Mae angen i'r Llywodraeth gyhoeddi canllawiau cynllunio TAN20 – mae angen arweiniad cryfach ar awdurdodau lleol ar fater y Gymraeg ym maes cynllunio.
"Mae'n eironig bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi yn gynharach yn y flwyddyn eu bod am sefydlu Comisiwn i edrych ar y Gymraeg yn y sir ond eto bod yr oedi gyda rhyddhau y polisi yma yn niweidiol i'r Gymraeg. Aethon ni gydag ymgyrchwyr o Benybanc sydd yn gwrthwynebu datblygiad tebyg ar safle yn y pentref hynny.
"Byddwn ni'n pwysleisio eto ar faes Eisteddfod yr Urdd bod angen y canllawiau newydd, cryfach er mwyn i’r gyfundrefn gynllunio weithio er lles y Gymraeg yn hytrach nag yn ei herbyn, ddydd Llun nesaf. Bydd aelodau ifanc o Gymdeithas yr Iaith yn cynnal helfa drysor i ddod o hyd i bolisi cynllunio TAN20.”