Prifysgol Bangor: torri swyddi nyrsio Cymraeg ond creu swyddi Saesneg?

Mae Prifysgol Bangor wedi dod o dan y lach wedi iddi hysbysebu pedair swydd nyrsio heb osod y Gymraeg fel sgil hanfodol, ar ôl torri swydd cyfrwng Cymraeg yn yr un maes ychydig wythnosau yn ôl.

Ym mis Ebrill, penderfynodd Prifysgol Bangor dorri swydd cyfrwng Cymraeg mewn nyrsio anabledd dysgu fel rhan o raglen o doriadau. Fodd bynnag, ychydig wythnosau wedyn, cyhoeddwyd pedair swydd nyrsio lle dynodir y Gymraeg fel sgil dymunol yn unig. Daw’r newyddion er gwaethaf buddsoddiad sylweddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn narpariaeth Gymraeg y Brifysgol.

Mae Cymdeithas yr Iaith bellach wedi gwneud cwyn swyddogol i Gomisiynydd y Gymraeg, gan honni bod y penderfyniadau yn groes i ddyletswyddau iaith y Brifysgol. Dywed Gwerfyl Roberts, Cadeirydd Grŵp Iechyd Cymdeithas yr Iaith, mewn llythyr at y Comisiynydd:

“Gan mai 'dymunol' (yn hytrach na 'hanfodol') yw'r Gymraeg ar gyfer y swyddi [newydd] hyn, nid yw'n ymddangos fod yr Ysgol wedi ymrwymo i warchod ei chapasiti dwyieithog yn sgil effaith y toriadau, nac ymdrechu i sicrhau dyfodol nyrsio anabledd dysgu cyfrwng Cymraeg, gan fynd yn groes i Bolisi Iaith a Chynllun Gweithredu Prifysgol Bangor.”

“Yn sgil tystiolaeth gynyddol am y trafferthion difrifol sy'n wynebu pobl gydag anabledd dysgu wrth iddynt gyrchu gwasanaethau iechyd, a'r effaith andwyol ar unigolion a'u teuluoedd, dengys deddfwriaeth a pholisi diweddar Llywodraeth Cymru fod angen nyrsys arbenigol yn y maes yn fwy nag erioed, ac yn enwedig i ateb y galw cynyddol am wasanaethau Cymraeg. Mae'n syndod felly nad yw Prifysgol Bangor yn cynyddu yn hytrach na chwtogi'r addysg a hyfforddiant yn y maes, yn enwedig trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn wir, o ystyried buddsoddiad hael y Coleg Cymraeg Cenedlaethol dros y blynyddoedd, sydd wedi galluogi Prifysgol Bangor i arwain y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg nyrsio ar lefel genedlaethol, mae'r toriadau arfaethedig yn gywilyddus.

Ychwanegodd:

“Wrth golli aelod o staff profiadol sy'n siaradwr Cymraeg rhugl ac sy'n cyfrannu'n helaeth at y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg gyfredol mewn nyrsio anabledd dysgu a thu hwnt, rydym yn herio datganiad yr is-ganghellor ac yn rhagweld na fydd modd cynnal y ddarpariaeth, na chyrraedd yr un safon, i'r dyfodol. Am hynny, rydym yn hynod bryderus am effaith y toriadau hyn ar y ddarpariaeth Gymraeg i fyfyrwyr a'r effaith niweidiol hirdymor ar gymunedau ar draws Cymru  lle mae siaradwyr Cymraeg, sydd eisoes mewn sefyllfa fregus, yn cyrchu gwasanaethau anabledd dysgu trwy'r Gymraeg.”