‘Prisiau tai a diffyg gwaith yn gwagio ein pentrefi Cymraeg’ - rhybudd

Mae angen mynd i’r afael â’r argyfwng yn y farchnad dai sy’n ‘gwagio pentrefi Cymraeg’ - dyna fydd prif neges mudiad iaith mewn cynhadledd yn Aberystwyth heddiw (dydd Sadwrn, 12fed Hydref).

Yn Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin dros y degawd diwethaf, mae 117,000 o bobl ifanc rhwng 15 a 29 oed wedi gadael yr ardaloedd hynny, sy'n cyfateb i dros 55% o'r holl allfudiad ar gyfer pob oedran. Amcangyfrifir bod Cymru yn colli tua 5,200 o siaradwyr Cymraeg y flwyddyn drwy allfudo o Gymru. 

 

Yng Ngheredigion, ar gyfartaledd, mae prisiau tai dros saith gwaith yn fwy na chyflogau. Y llynedd, roedd 39% o’r cartrefi a werthwyd yng Ngwynedd naill ai’n gartrefi gwyliau neu’n dai ‘prynu i rentu’ – cynnydd o 34% ar y flwyddyn flaenorol. 

Bydd y Cynghorydd Loveday Jenkin o Gyngor Cernyw, y pensaer Màrtainn Mac a'Bhàillidh o fudiad iaith yn yr Alban a Heddyr Gregory o Shelter Cymru ymysg y siaradwyr yn y drafodaeth yn Aberystwyth a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith.

 

Yn siarad cyn y digwyddiad, meddai Jeff Smith, cadeirydd grŵp cymunedau Cymdeithas yr Iaith: 

Rhwng diffyg swyddi a phrisiau tai, mae pentrefi a threfi yn y Gorllewin a’r Gogledd yn dioddef yn ofnadwy yn ieithyddol ac yn gymunedol achos bod cymaint o siaradwyr Cymraeg yn gorfod symud i ffwrdd. Mae gwir angen mynd i’r afael â hyn er mwyn sicrhau ffyniant y Gymraeg. Mae angen cyfundrefn eiddo arnon ni sy’n sicrhau bod prisiau tai yn adlewyrchu’r hyn mae pobl leol yn gallu’i fforddio. Dyna pam rydym wedi penderfynu mai’r mater tai, gan gynnwys tai haf, fydd testun y drafodaeth heddiw. 

“O’u polisi ffioedd dysgu sy’n annog ein pobl ifanc i adael y wlad, i gynnal a chefnogi marchnad dai gyda phrisiau hollol anfforddiadwy i bobl leol, mae polisiau’r Llywodraeth yn milwriaethu yn erbyn y Gymraeg a chynaliadwyedd cymunedol yn gyffredinol. Rydyn ni’n gobeithio dysgu gan wledydd eraill er mwyn trafod yr hyn mae angen i ni ei wneud yn wahanol. Mae rhai o bolisïau Porth Ia yng Nghernyw yn cynnig rhai atebion i’r problemau, gyda chyfyngiadau ar ail gartrefi. Ond, mae angen i ni ystyried mesurau eraill hefyd er mwyn dod â phrisiau lawr i bawb. Un ateb yw normaleiddio tai fel gwasanaeth cyhoeddus sydd mewn dwylo cyhoeddus yn hytrach nag ased preifat. Mae dod â’r hawl i brynu tai cyngor i ben yn gam yn y cyfeiriad cywir, ond sut mae dod â thai preifat presennol i ddwylo cymunedol lleol?”

 

Ychwanegodd: 

 

“Mae nifer o’r problemau yma’n ganlyniad i’r ffordd rydyn ni’n edrych ar dai, fel ased mewn marchnad yn hytrach na gwasanaeth cyhoeddus. Mae angen sylweddoli hefyd bod tai nad ydyn nhw’n fforddiadwy yn ddim ond yn rhan o’r rheswm am y lefelau allfudo a mewnfudo sy’n tanseilio’r Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae ein polisïau ‘Gwaith i Adfywio Iaith’ gyhoeddon ni’r llynedd yn cynnig rhai mesurau syml i fynd i’r afael â hyn, gan gynnwys: sefydlu banciau lleol gyda chymorth cynghorau a’u hasedau pensiwn; codi treth ar dwristiaeth i helpu i ariannu mynediad cyflym i’r we i bob rhan o’r wlad; dileu ffioedd dysgu i’r rhai sy’n aros yng Nghymru i astudio; datganoli cannoedd o swyddi allan o Gaerdydd; a sefydlu colegau hyfforddi ar gyfer gweithwyr iechyd a milfeddygon yn Aberystwyth a Bangor.”

Ym Mhorth Ia (St Ives) yng Nghernyw mae tua chwarter y tai yn ail gartrefi. Yn dilyn refferendwm dair blynedd yn ôl, cyflwynwyd rheol newydd sy’n golygu nad oes hawl i dai newydd gael eu prynu fel ail gartrefi.