Protest Deddf Iaith Bangor

Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal y ddiweddaraf mewn cyfres o brotestiadau Deddf Iaith ym Mangor dydd Sadwrn Mawrth 13eg. Cynhaliwyd protestiadau tebyg yn ddiweddar yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Chaerfyrddin.

Bwriad y protestiadau hyn yw tynnu sylw at fethiant Deddf Iaith 1993 (a basiwyd ychydig dros Dddeng mlynedd ynÙl) a manteisio ar y cyfle i ddangos i Meirion Prys Jones, sydd ar fin cychwyn ar ei waith fel Prif Weithredwr newydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg fod y byd wedi symud yn ei flaen dros y deng mlynedd diwethaf ac nad yw'r Ddeddf a basiwyd yn 1993 yn berthnasol bellach.protestdeddfiaithbangor2004.JPGDywedodd Rhys Llwyd ar ran ymgyrch Deddf Iaith y Gymdeithas:"Deddf ar gyfer y sector gyhoeddus yw'r un a gafwyd yn 1993 ac oddi ar hynny mae bron bob gwasanaeth sy'n cyffwrdd ’ bywydau pobl Cymru wedi ei breifateddio. Mae'r datblygiadau ym maes technoleg gwybodaeth wedi bod yn arwyddocaol iawn hefyd ac nid yw pwerau Deddf Iaith 1993 yn ymestyn i'r meysydd hyn."Bydd y Gymdeithas yn cwrdd ’ Meirion Prys Jones ym Mis Ebrill a'n bwriad i'w trosglwyddo'r wybodaeth a gasglwn yn y cyfres protestiadau hyn fel tystiolaeth o'r angen am Ddeddf Iaith Newydd".