Protest dros ddyfodol Mynyddcerrig yn cynyddu

cyngor_sir_caerfyrddin.JPGMae cynrhychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru, a 10 o ysgolion pentref ynghyd a chynghorydd Cynnwyl Gaeo wedi addo rhoi eu cefnogaeth i'r frwydr i achub ysgol Mynyddcerrig. Byddant yn datgan eu negeseuon o gefnogaeth mewn Cyfarfod Protest o flaen Neuadd y Sir am 9.30 fore Mercher, Gorffennaf 12ed cyn cyfarfod llawn o'r Cyngor.

Bydd rhaid i bob ymateb i bapur ymgynghorol y Cyngor ar ddyfodol ysgol Mynyddcerrig gael ei ddanfon i mewn cyn cyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar Gorffennaf 10ed. Bwriada'r Bwrdd benderfynnu ar ddyfodol yr ysgol yn eu cyfarfod nesaf ar Orffennaf 24ain heb ei drafod eto yn y Cyngor llawn.Dywedodd Sioned Elin, cadeirydd rhanbarth Caerfyrddin o Gymdeithas yr Iaith (y mae ei phlant ei hun yn mynd i ysgol cyfagos Bancffosfelen), "Pwrpas y cyfarfod protest fydd mynnu fod y Cyngor llawn yn dangos digon o ddiddordeb yn nyfodol y pentref a'r plant i drafod y mater yn drwyadl eu hunain. Mae'n gywilyddus fod Swyddogion y Cyngor wedi rhuthro i geisio cau ysgol Mynyddcerrig ychydig fisoedd cyn y drafodaeth arfaethedig ar Addysg gynradd yn yr ardal gyfan. Mae hyd yn oed yn fwy cywilyddus iddynt roi mis yn unig i rieni, llywodraethwyr a phobl Mynyddcerrig i ymateb i'r ddogfen ymgynghorol warthus sy'n difrio pob opsiwn arall heblaw gwerthu'r ysgol a bysio'r plant i aradaloedd eraill.Ychwanegodd Ms Elin, "Ni allwn ganiatu i'r Cyngor drin addysg ein plant a dyfodol ein cymunedau gyda'r fath ddirmyg. Rhaid i ni gyd sefyll dros Mynyddcerrig, am eu bod nhw yn gwneud safiad dros bawb ohonom."