Protest dros Goleg Aml-safle Cymraeg – Heddlu'n Ymyrryd

Protest Coleg FfederalMae 6 aelod o Gymdeithas yr Iaith wedi llwyddo i fynd ar dô Prifysgol Bangor i ymuno a'r 15 aelod sydd wedi bod ar dô Prifysgol Aberystwyth am yr awr ddiwethaf. Mae'r 21 aelod yma yn ogystal a 3 aelod pellach sydd yno'n cefnogi criw Bangor, yn cymeryd rhan mewn protest yn galw am Goleg Aml-safle Cymraeg.

Ym Mangor, mae ein haelodau wedi llwyddo mynd ar dô Adeilad y Celfyddydau ym ymyl y Brif Fynedfa yn Ffordd y Coleg, er i'r heddlu geisio eu rhwystro. Yn Aberystwyth, mae ein haelodau wedi llwyddo i fynd ar dô Adeilad Ffiseg Penglais.Mae Cwmni ARAD newydd gwblhau Asesiad Opsiynau ar gyfer Llywodraeth y Cynulliad o ran darganfod y ffordd orau ymlaen i ddatblgyu Addysg Uwch gyfrwng-Gymraeg. Bydd eu hadroddiad yn fuan ar ddesg y Gweinidog Addysg, Jane Davidson, a hi fydd yn cymryd y penderfyniad terfynol. Gosodwyd opsiynau'n amrywio o barhau gyda’r status quo hyd sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg gyda 2 'opsiwn cyfaddawd' rhyngddynt.Yn ei thystiolaeth i'r Asesiad, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am fynd yn bellach na'r alwad arferol am Goleg Ffederal Cymraeg a fyddai'n gweithredu ar sawl campws academaidd. Mae'r Gymdeithas wedi galw am Goleg aml-safle Cymraeg a fydd yn gweithredu hefyd mewn cymunedau lleol ac mewn partneriaeth gyda chyrff cyhoeddus mewn trefn gwbl newydd. Esbonia llefarydd y Gymdeithas ar Addysg, Ffred Ffransis:"Credwn y dylem fanteisio ar y bosibiliad o greu sefydliad newydd trwy greu sefydliad addysg uwch a fydd yn wir wasanaethu Cymru. Yr ydym wedi cynnig model o Goleg aml-safle a fyddai’n dysgu myfyrwyr llawn amser ar sawl campws academaidd ac hefyd wrth iddynt weithio ar brosiectau i gyrff cyhoeddus yng Nghymru."\Rhagwelwn y gallai Coleg o’r fath ddenu cytundebau ymchwil gan Gynghorau Sir, Y Cynulliad a chyrff cyhoeddus eraill i ymchwilio a chreu Astudiaethau Effaith o ran datblygiadau economaidd, twristaidd, amaethyddol, cymdeithasol-ddiwylliannol, ecolegol etc. Yn lle cyfieithu’r cyrsiau cyfredol i’r Gymraeg yn unig, gellid creu ym mhob adran feysydd gwaith a fyddent yn cynnwys gwaith ymarferol o fudd i gyrff cyhoeddus. Dyma ffynhonell cyllid ychwanegol i’r coleg trwy annog y cyrff i roi cytundebau ymchwil i’r Coleg yn lle talu miliynau i ymgynghorwyr parasitaidd yn flynyddol.\"Yr ydym hefyd wedi cynnig yn ein tystiolaeth y gallai ffurf y Coleg aml-safle fod yn gynhwysol iawn. Gallai fod myfyrwyr rhan-amser cymunedol yn ogystal a rhai llawn-amser, a gallai staff hefyd rannu amser rhwng bod yn diwtoriaid yn y Coleg, mewn sefydliadau addysg bellach ac weithiau mewn Cyrff cyhoeddus hefyd.Gellid torri i lawr y rhwystr rhwng addysg a realiti cyflawn bywyd. Mae'r model hwn ar goleg aml-safle Cymraeg yn ateb yn syth nifer o gwestiynau allweddol o ran cael hyd i fyfyrwyr, staff a chyllid. Mae’n fodel sy’n flaengar yn hytrach na cheisio bod yn gysgod gwan o golegau Saesneg gan geisio cystadlu mewn marchnad fel cath yn dilyn ei chynffon!"Mewn ymateb i’r cwestiwn paham nad ydym wedi aros am benderfyniad Jane Davidson cyn dechrau protestio, dywedodd Mr Ffransis:"Mae arwyddion peryglus y gallai’r Gweinidog benderfynu ar ryw gyfaddawd gysurus a fyddai’n datrys ei phroblem wleidyddol hi heb roi unrhyw strwythur effeithiol i ddatblgyu addysg uwch Gymraeg. Rhaid i’n gweithredu nawr ddangos na allwn ni fforddio unwaith yn rhagor golli’r cyfle. Bydd ein protest aml-safle yn ymledu i Faes Steddfod yr Urdd fis i heddiw (Sadwrn 3ydd Mehefin) a thrwy Gymru."1protest-addysg-aber-mai06.JPGAberystwythprotest-addysg-aber-mai06.JPGAberystwyth1protest-addysg-bangor-mai06.JPGBangorprotest-addysg-bangor-mai06.JPGBangorWelsh language activists stage rooftop protests - Daily Post