Daeth protest lwyddiannus gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ben to swyddfa'r Cynulliad Cenedlaethol yn Llandrillo yn Rhos i ben am ddeuddeg o'r gloch prynhawn heddiw. Protest oedd hon a alwai ar i lywodraeth y Cynulliad neilltuo mwy o arian yn ei chyllideb nesaf ar gyfer y farchnad dai yng Nghymru.
Ar ddiwedd y brotest oedd wedi dechrau am 7 o’r gloch y bore cafodd y protestwyr gyfarfod gyda swyddogion o Adran dai y llywodraeth oedd yn gweithio yn yr adeilad. Rhoddwyd ar ddeall i’r protestwyr fod y llywodraeth yn bwriadu neilltuo mwy o arian ar gyfer y farchnad dai yn ei chyllideb nesaf.Dywedodd Huw Lewis, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac un o’r protestwyr ar y to,"Yr ydym yn croesawu'r ffaith fod y llywodraeth yn bwriadu neilltuo mwy o arian ar gyfer y farchnad dai ac yn gobeithio y bydd cynnydd sylweddol yn yr arian a neilltuir ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu.""Yn yr un modd gobeithiwn y bydd arian digonol ar gyfer sefydlu cronfa newydd fydd yn rhoi hawl i bobl rentu tai ac eiddo yn eu cymunedau lleol. Dylai y gronfa hon alluogi Cymdeithasau Tai i brynu unedau sydd ar werth yng nghanol ein trefi a’n pentrefi a’u gosod i deuluoedd lleol."Darllenwch stori'r Daily Post arlein.