Protest tu allan i Neuadd Cyngor Sir Gâr

Cadwn Ein Hysgolion.JPGBu dros 100 o bobl yn protestio tu allan i Neuadd y Sir, Caerfyrddin rhwng 8.30am a 10am y bore yma (23ain Gorffennaf ) cyn cyfarfod pwysig o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin. Trefnwyd y brotest gan rieni a llywodraethwyr, a bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yno yn cefnogi.

Am 10am fe fydd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin yn trafod argymhelliad i fabwysiadu fformiwla newydd i gael gwared â bob ysgol bentrefol Gymraeg heblaw am “nifer fechan o leoliadau addysg” sy’n anghysbell iawn. Bydd y fformiwla newydd yn dileu’r elfennau atodol ar gyfer ysgolion bach a hybu ffederasiynau ac yn seilio’r cyfan ar nifer y disgyblion. O ganlyniad, bydd pob ysgol bentre’ bach yn colli cyllid sylweddol.Yn ôl ymchwil gan Gymdeithas yr Iaith, ysgolion Cymraeg eu cyfrwng fydd yn colli fwyaf. Bydd Ysgolion Categori A (Cymraeg eu cyfrwng) yn colli cyfanswm o £460,040. Bydd ysgolion Categori AB ( ffrydiau Cymraeg a Saesneg ar wahân ) yn ennill cyfanswm o £269,365. Bydd ysgolion Categori B (Saesneg eu cyfrwng) yn ennill cyfanswm o £190,433. Bydd 50 o Ysgolion Pentrefol Categori A (Cymraeg) ar eu colled, a dim ond 13 ar eu hennill.Meddai Cadeirydd y Gymdeithas yng Nghaerfyrddin, Sioned Elin (sydd â phlant ei hunan mewn ysgol bentre’ Gymraeg ):"Mae’r Cyngor Sir yn mynd yn fwyfwy rhwystredig oherwydd yr holl wrthwynebiad i’w cynlluniau i gau ysgolion a’r oedi canlynol. Felly, maen nhw am fynd ati nawr i newynu’r ysgolion o gyllid er mwyn rhoi eu llywodraethwyr mewn sefyllfa amhosibl. Dim ond un dewis sydd i fod mewn ymgynghori yn y dyfodol, sef cau ysgolion. Yn y broses, byddan nhw’n rhoi ergyd mawr i addysg Gymraeg ac i’n cymunedau Cymraeg yn y sir."Syrpreis, SyrpreisUnwaith eto nid yw'r broses ymgynghori hir ynghylch dyfodol ysgol bentrefol wedi cael unrhyw effaith o gwbl ar Swyddogion Addysg Sir Gâr sydd wedi argymell fod y Bwrdd Gweithredol heddiw y 23ain o Orffennaf yn caniatáu cyhoeddi rhybudd statudol i gau ysgol Llansadwrn. Fe fydd hyn yn dilyn eitem gynharach ar yr agenda a fydd yn gofyn i'r Bwrdd fabwysiadu fformiwla gyllido newydd a fydd yn newynu ysgolion pentrefol o arian.Mewn llythyr i bob aelod o'r Bwrdd, dywedodd llefarydd addysg y Gymdeithas, Ffred Ffransis:"Unwaith eto gofynnir i chwi roi'r caniatâd arferol i gau ysgol bentrefol cyfrwng Cymraeg heb unrhyw astudiaeth o'r effaith ar yr iaith Gymraeg nac astudiaeth o'r effaith ar y gymuned.""Dywed eich swyddogion nad yw'r broses ymgynghori wedi cyflwyno unrhyw ddewisiadau eraill heblaw am gau ysgol. Dyw hi ddim yn eich taro chi fod hyn yn gysylltiedig i'r fformiwla gyllido arfaethedig newydd sydd wedi ei gynllunio i wneud ffedereiddio'n anhyfyw? Dych chi ddim yn gweld fod y diffyg strategaeth unedig rhwng yr adrannau Addysg ac Adfywio Cymunedol yn gwneud y defnydd cymunedol o adeiladau ysgolion yn amhosibl?""Y tro yma, plîs gwrthodwch argymhelliad y swyddogion a chyfarwyddwch hwy i adolygu effaith cau ysgolion a'r dewisiadau eraill yn llawn.""Y sgandal mwyaf yw bod y swyddogion yn amlwg yn gweithio o dempled ar gyfer cau llawer o ysgolion mewn modd dirmygus iawn. Mae'r paragraff a ddefnyddir i ddadlau yn erbyn creu ffederasiwn yn ardal Llansadwrn yn union yr un gair am air a'r paragraff a ddefnyddiwyd ym mis Ionawr eleni i ddadlau yn erbyn ffederasiwn yn ardal Mynyddcerrig. Mae hyn yn warthus."